Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Cynnal a Chadw Ategweithiau Pont y Rheilffodd – Gogledd Afon Gwendraeth Fawr

Yn cau 26 Medi 2024

Wedi'i agor 30 Awst 2024

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Cynnal a Chadw Ategweithiau Pont y Rheilffodd – Gogledd Afon Gwendraeth Fawr 

Hysbysir drwy hyn fod Dyer and Butler Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer Gwaith Cynnal a Chadw Ategweithiau Pont y Rheilffodd – Gogledd Afon Gwendraeth Fawr.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, yn https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2456.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 26/09/2024, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2456.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement