HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER GWAITH CARTHU AC ECHDYNNU O DRAETH BEDWYN A NORTH MIDDLE GROUND

Ar gau 7 Maw 2024

Wedi'i agor 25 Ion 2024

Trosolwg

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER GWAITH CARTHU AC ECHDYNNU O DRAETH BEDWYN A NORTH MIDDLE GROUND

Hysbysir drwy hyn fod Breedon Trading Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer cynnal gwaith carthu ac echdynnu o Draeth Bedwyn a North Middle Ground. Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais MMML2367.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Area Statement