Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Archwilio Tir Morol ym Mhort Talbot yn y Dyfodol

Yn cau 29 Mai 2024

Wedi'i agor 1 Mai 2024

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Archwilio Tir Morol ym Mhort Talbot yn y Dyfodol

Hysbysir drwy hyn fod Associated British Ports Holdings Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer gwaith archwilio tir gan gynnwys tyllau turio, teclynnau samplu Van Veen a vibrocores. Bydd y gwaith yn digwydd yn yr harbwr, yn y porthladd mewnol, ac ym mynedfa’r porthladd i Afon Afan.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais RML2420.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r

Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 29/05/2024, gan ddyfynnu cyfeirnod: RML2420

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement