Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Amddiffyn Arfordirol Llanfairfechan
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009
Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Amddiffyn Arfordirol Llanfairfechan
Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer Gwaith Amddiffyn Arfordirol Llanfairfechan.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2493.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 2 Gorffennaf 2025, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2493.
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook