Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Ailbeintio a Chynnal a Chadw Pont y Borth
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais ar gyfer Gwaith Ailbeintio a Chynnal a Chadw Pont y Borth
Hysbysir drwy hyn fod Vercity Group wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer ailbeintio a chynnal a chadw Pont y Borth.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2482.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r
Gyfoeth Naturiol Cymru,
Tîm Trwyddedu Morol,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 14/03/2025, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2482
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook