Hysbysiad o Gais ar gyfer gosod amddiffynfa gerrig a deunydd mewnlenwi wedi’i ailgylchu yn Gelliswick yn Nyfrffordd Aberdaugleddau

Trosolwg

Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

Hysbysiad o Gais ar gyfer gosod amddiffynfa gerrig a deunydd mewnlenwi wedi’i ailgylchu yn Gelliswick yn Nyfrffordd Aberdaugleddau

Hysbysir drwy hyn fod Mr Darren Briggs wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer gosod amddiffynfa gerrig a deunydd mewnlenwi wedi’i ailgylchu yn lle’r hen gaergewyll oedd wedi methu. Bydd craen ar y tir yn gostwng ac yna’n codi cloddiwr bychan a blociau amddiffynnol 2 dunnell o gerrig wrth droed y clogwyn. Cynigir defnyddio deunydd wedi’i ailgylchu o’r gwaith cloddio dwfn uwchben y clogwyn ar gyfer ôl-lenwi gyda geodtecstil amddiffynnol.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ML26883.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu yrru e-bost at
marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23 Rhagfyr 2026, gan ddyfynnu cyfeirnod: ML26883

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Yn cau 23 Rhag 2026

Wedi agor 25 Tach 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project