Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Swyddfeydd Mochdre, Ffordd Conwy, Mochdre, Conwy, LL28 5AB wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer cynllun amddiffynfa arfordirol ym Mae Cinmel, sy’n cynnwys uwchraddio’r gwrthglawdd carreg cyfredol, codi uchder y morglawdd a llifddor newydd. Mae gwelliannau tir y cyhoedd a gwelliannau ecolegol hefyd yn rhan o’r cynllun. Mae arwynebedd y gwaith parhaol tua 35,111m² ond dim ond cyfran gyfyngedig o’r cynllun sydd o dan y cymedr penllanw mawr.
Gellir cael copïau o'r datganiad amgylcheddol a’r dogfennau uchod ar-lein o https://publicregister.naturalresources.wales/ gan ddefnyddio’r cyfeirnod CML2272 neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook