Hysbysiad o gais ar gyfer cynllun amddiffyn arfordir Aberaeron

Ar gau 8 Medi 2021

Wedi'i agor 28 Gorff 2021

Trosolwg

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER CYNLLUN AMDDIFFYN ARFORDIR ABERAERON

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol yn Aberaeron sy’n cynnwys pum elfen. Mae’n cynnwys adeiladu morglawdd carreg newydd, adnewyddu ac ailadeiladu pen South Pier, adeiladu mur llifogydd, adeiladu fflodiard yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwelliannau i’r amddiffynfeydd cyfredol ar Draeth y De. Mae maint y prosiect cyfan tua 4.37 hectar. 

Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o ein cofrestr gyhoeddus neu drwy e-bostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.

Ardaloedd

  • Aberaeron

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Cockles
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Management
  • marine developers
  • marine planners
  • South West Stakeholder group
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Educators
  • SoNaRR2020

Diddordebau

  • EIA