Hysbysiad o Gais ar gyfer arolygon geodechnegol o fewn ardal aráe fferm wynt alltraeth Mona ym Môr Iwerddon

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009

Hysbysiad o Gais ar gyfer arolygon geodechnegol o fewn ardal aráe fferm wynt alltraeth Mona ym Môr Iwerddon

Hysbysir drwy hyn fod Mona Offshore Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer cynnal arolygon geodechnegol o fewn ardal aráe fferm wynt alltraeth Mona ym Môr Iwerddon. Bydd yr arolygon yn llywio cynllun sylfeini WTG, is-orsafoedd alltraeth a llwybrau ceblau rhyng-aráe.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais RML2602.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 19 Ebrill 2026, gan ddyfynnu cyfeirnod: RML2602

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Yn cau 19 Ebr 2026

Wedi agor 19 Maw 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project