HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL
Trosolwg
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O GAIS AR GYFER AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL
Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer amrywio trwydded forol gyfredol CML2272v1 ar gyfer cynllun amddiffyn yr arfordir ym Mae Cinmel, er mwyn newid y cynllun o gael dwy fynedfa ym mhen dwyreiniol strwythur amddiffynnol Bae Towyn i gael un fynedfa. Yn ogystal bydd y strwythur yn gofyn am waith gosod seilbyst gyda morthwyl dirgrynol a gosod argae coffr dros dro.
Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/ gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2272v2 neu drwy ebostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ysgrifennu at y
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Dyfynnwch gyfeirnod CML2272v2 yn eich holl ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook