Hysbysiad o Gais ar gyfer ail-adeiladu wal gerrig sydd wedi dymchwel, i lawr yr afon o Felin Pwll Du, Afon Cleddau, Sir Benfro
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais ar gyfer ail-adeiladu wal gerrig sydd wedi dymchwel, i lawr yr afon o Felin Pwll Du, Afon Cleddau, Sir Benfro
Hysbysir drwy hyn fod Bluestone Resorts Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer ail-adeiladu wal gerrig sydd wedi dymchwel i lawr yr afon o Felin Pwll Du, Afon Cleddau, Sir Benfro.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2492.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r
Tîm Trwyddedu Morol,
Gwasanaeth Trwyddedu Caerdydd,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd
CF10 3NQ
neu yrru ebost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 13/03/2025, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2492
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook