Hysbysir drwy hyn fod Porthladd Mostyn Cyf, Ffordd yr Arfordir, Mostyn, Sir y Fflint wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 27 Ionawr 2023 a 3 Chwefror 2023.
Mae Porthladd Mostyn Cyf wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i adeiladu wal newydd i’r cei ac adfer tua 4.5h o dir y tu ôl i’r morglawdd newydd. Bydd angen cynnal gwaith carthu er mwyn creu angorfeydd newydd, a bydd angen dyfnhau angorfeydd cyfredol a’r sianel ddynesu ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw yn y dyfodol. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd. Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol mewn Llyfygell Treffynnon, Sir y Fflint tan y 23 Hydref 2023.
Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy ebostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2283.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y
Gwasanaeth Trwyddedu,
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tŷ Cambria,
29 Ffordd Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0TP
neu drwy ebostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23 Hydref 2023. Mae’n rhaid cyflwyno'r sylwadau'n ysgrifenedig, wedi'u dyddio, gan nodi'r enw'n glir (mewn priflythrennau) ynghyd â chyfeiriad ebost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau. Dyfynnwch y cyfeirnod CML2283 ym mhob darn o ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant ar gael yn gyhoeddus hefyd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect, rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Share
Share on Twitter Share on Facebook