Hysbysir drwy hyn fod Fforwm Arfordir Sir Benfro CIC wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) ar gyfer newid i drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol (“AEA”) dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau AEA”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi atodiad i’r datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer newid rhai o baramedrau’r prosiect yn safleoedd profi ynni’r môr alltraeth Warrior Way a Dale Roads, yn agos at Ddoc Penfro; i hwyluso’r gwaith o brofi a datblygu prosiectau ynni’r môr.
Mae copïau o'r atodiad i’r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy'n ofynnol gan y Rheolau AEA ar gael ar-lein o'n cofrestr gyhoeddus. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ORML1957v2.
Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.
Share
Share on Twitter Share on Facebook