Hysbysiad o Gais am ailosod pont lwytho Abergwaun
Trosolwg
Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009
Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007
Hysbysir drwy hyn fod Stena Line Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer tynnu’r bont lwytho a’r bad addasadwy presennol a gosod pontŵn llwytho arnofiol newydd i wasanaethu fferi Stena Line yn Harbwr Abergwaun. Bydd y Prosiect yn cynnwys carthu cyfalaf o 78,000m3 a gwaredu yn y safle trwyddedig LU19 Aberdaugleddau; adfer i hwyluso estyniad i’r ffordd a’r rhwydwaith cerddwyr; dymchwel strwythurau gan gynnwys llithrfa segur yr RNLI; gwrthglawdd creigiau gyda manylion troed y strwythur i gysylltu â’r amddiffyniad rhag erydiad; ymestyn y carthffosydd storm, a gwaith ategol a dros dro.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Port Administration Building, Stena Line, Fishguard Harbour, SA64 0BX am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2533.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 42 o ddyddiadau o'r hysbysiad hwn. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Dyfynnwch gyfeirnod CML2533 yn eich holl ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook