Hysbysiad o Gais am ailosod pont lwytho Abergwaun

Ar gau 30 Gorff 2025

Wedi agor 24 Meh 2025

Trosolwg

Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009

Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007

Hysbysir drwy hyn fod Stena Line Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer tynnu’r bont lwytho a’r bad addasadwy presennol a gosod pontŵn llwytho arnofiol newydd i wasanaethu fferi Stena Line yn Harbwr Abergwaun. Bydd y Prosiect yn cynnwys carthu cyfalaf o 78,000m3 a gwaredu yn y safle trwyddedig LU19 Aberdaugleddau; adfer i hwyluso estyniad i’r ffordd a’r rhwydwaith cerddwyr; dymchwel strwythurau gan gynnwys llithrfa segur yr RNLI; gwrthglawdd creigiau gyda manylion troed y strwythur i gysylltu â’r amddiffyniad rhag erydiad; ymestyn y carthffosydd storm, a gwaith ategol a dros dro.

Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Port Administration Building, Stena Line, Fishguard Harbour, SA64 0BX am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

Gallwch hefyd gael copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2533.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project