HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL

Ar gau 4 Maw 2025

Wedi agor 4 Chwef 2025

Trosolwg

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL

Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â amrywio cynllun gwelliannau amddiffyn yr arfordir ym Mae Cinmel. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.

Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement