HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL
Trosolwg
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007 HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL AMRYWIO CYNLLUN GWELLIANNAU AMDDIFFYN YR ARFORDIR YM MAE CINMEL
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â amrywio cynllun gwelliannau amddiffyn yr arfordir ym Mae Cinmel. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd.
Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/ gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2272v2 neu drwy ebostio Cyfoeth Naturiol Cymru yn marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am y gost o greu copïau nad yw'n fwy na'r gost resymol o wneud hyn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook