HYSBYSIAD CYHOEDDUS - PROSIECT YNNI GWYNT AR Y MÔR (LLŶR FLOATING WIND LTD)

Trosolwg

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

PROSIECT YNNI GWYNT AR Y MÔR (LLŶR FLOATING WIND LTD)

Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 27 Tachwedd 2024 a 2 Rhagfyr 2024 yn y Western Telegraph a’r Milford Mercury.

Mae Llŷr Floating Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu, gosod, gweithredu a datgomisiynu hyd at 10 generadur tyrbin gwynt sy’n arnofio ar y môr wedi’u lleoli oddeutu 35 km o arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yn Llyfrgell Doc Penfro, Stryd y Dŵr, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DW o 5 Chwefror 2026 am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o'r Cofrestr gyhoeddus neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol wneud hynny'n ysgrifenedig i:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu drwy e-bostio
marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 42 o ddiwrnodau o'r hysbysiad hwn. Mae’n rhaid cyflwyno'r sylwadau'n ysgrifenedig, wedi'u dyddio, gan nodi'r enw'n glir (mewn priflythrennau) ynghyd â chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.

Dyfynnwch y cyfeirnod ORML2465 ym mhob darn o ohebiaeth.

Eir i'r afael â sylwadau gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant ar gael yn gyhoeddus hefyd. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect, rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.

Yn cau 19 Maw 2026

Wedi agor 5 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project