Hysbysebiad gwybodaeth ychwanegol Llŷr Floating Wind Limited ORML2465

Ar gau 28 Gorff 2025

Wedi agor 16 Meh 2025

Trosolwg

Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009

Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007

PROSIECT YNNI GWYNT AR Y MÔR (LLŶR FLOATING WIND LTD)

Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 27 Tachwedd 2024 a 02 Rhagfyr 2024 yn y Western Telegraph a’r Milford Mercury.

Mae Llŷr Floating Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu, gosod, gweithredu a datgomisiynu hyd at 10 generadur tyrbin gwynt sy’n arnofio ar y môr wedi’u lleoli oddeutu 35km o arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Llyfrgell Glan-yr-Afon, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr, Oddi ar Swan Square, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2AN rhwng 9am a 5pm nes 28 Gorffenhaf  2025 am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.

Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o Public register - Customer Portal neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project