Hysbysebiad gwybodaeth ychwanegol Llŷr Floating Wind Limited ORML2465
Trosolwg
Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009
Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007
PROSIECT YNNI GWYNT AR Y MÔR (LLŶR FLOATING WIND LTD)
Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 27 Tachwedd 2024 a 02 Rhagfyr 2024 yn y Western Telegraph a’r Milford Mercury.
Mae Llŷr Floating Wind Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae’r prosiect yn cynnwys adeiladu, gosod, gweithredu a datgomisiynu hyd at 10 generadur tyrbin gwynt sy’n arnofio ar y môr wedi’u lleoli oddeutu 35km o arfordir Sir Benfro yn y Môr Celtaidd. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.
Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Llyfrgell Glan-yr-Afon, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr, Oddi ar Swan Square, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2AN rhwng 9am a 5pm nes 28 Gorffenhaf 2025 am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o Public register - Customer Portal neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol wneud hynny'n ysgrifenedig i'r:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 42 o ddiwrnodau o'r hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi. Mae’n rhaid cyflwyno'r sylwadau'n ysgrifenedig, wedi'u dyddio, gan nodi'r enw'n glir (mewn priflythrennau) ynghyd â chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Dyfynnwch y cyfeirnod ORML2465 ym mhob darn o ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant ar gael yn gyhoeddus hefyd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect, rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook