Hysbysiad o Gais ar GYFER PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – AR Y MÔR
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 -Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 - Hysbysiad o Gais ar GYFER PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – AR Y MÔR
Hysbysir drwy hyn fod Liverpool Bay CCS Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer addasu’r asedau Eni alltraeth presennol ym Mae Lerpwl at ddibenion eraill, a fydd yn cynnwys addasu’r biblinell fewnforio nwy naturiol o Lwyfan Douglas i Derfynell Nwy y Parlwr Du yn biblinell allforio i gludo CO2 i lwyfan ‘Dal a Storio Carbon’ Douglas sydd newydd gael ei adeiladu. Derbyniwyd newid i lwybr y ceblau sy’n cyrraedd yr arfordir yn Sianel Cymru ac ar draws Traeth Talacre, ac mae wedi cael ei anfon allan ar gyfer ymgynghori.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook