Hysbysir drwy hyn fod Blue Gem Wind Ltd o Ganolfan Arloesedd y Bont, Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro, Doc Penfro, SA72 6UN, wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau AEA’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 16/02/2022 a 23/02/2022.
Mae Blue Gem Wind Ltd wedi cyflwyno cais i CNC am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol (‘AEA’) dan y Rheoliadau AEA. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.
Mae'r cais ar gyfer datblygiad Gwynt ar y Môr Arnofiol maint arddangos wedi’i leoli tua 35km i’r De Orllewin o arfordir Sir Benfro, ac yn cwmpasu arwynebedd o 43.5km2. Mae’r Prosiect yn cynnwys 6-10 Generadur Tyrbin Gwynt (WTG) gyda chyfanswm capasiti generadu o hyd at 100 MW. Mae’r cêbl allforio alltraeth yn cysylltu ardal yr aráe â glanfa ym Mae West Angle, Sir Benfro.
Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd i’w harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng yn Haverfordwest Library, 20 Swansquare, Haverfordwest, SA61 2AN am gyfnod o 42 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Gellir cael copïau o’r wybodaeth ychwanegol hefyd ar-lein o'n cofrestr gyhoeddus. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais ORML2170.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook