Hysbysiad o Gais ar Gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordirol Caerdydd

Closed 29 Oct 2021

Opened 17 Sep 2021

Overview

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009

Hysbysiad o Gais ar Gyfer Cynllun Amddiffyn Arfordirol Caerdydd

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.

Mae'r cais ar gyfer cynllun amddiffyn arfordirol yng Nghaerdydd ar hyd aberoedd Afonydd Rhymni a Hafren.

Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r Gofrestr Gyhoeddus yn https://publicregister.naturalresources.wales/ drwy chwilio am CML2147.

Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Cymraeg

Interests

  • Permits