Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009
Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007
Hysbysiad o gais ar gyfer cynllun adnewyddu morglawdd Caergybi
Hysbysir drwy hyn fod Stena Line Ports Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n ddarostyngedig i’r gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer cynllun adnewyddu morglawdd Caergybi.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau eraill sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael ar-lein ar ein gofrestr gyhoeddus neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar y coronafeirws (COVID-19), ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn.
Share
Share on Twitter Share on Facebook