Hysbysiad o Gais am Ailosod Pont Lwytho Abergwaun
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009
Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007
Hysbysiad o Gais am Ailosod Pont Lwytho Abergwaun
Hysbysir drwy hyn fod Stena Line Cyfyngedig wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun gofyniad am asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”). Mae'r ymgeisydd wedi paratoi datganiad amgylcheddol.
Mae'r cais ar gyfer ailosod y bont lwytho a’r bad addasadwy presennol â phontŵn llwytho arnofiol newydd i wasanaethu fferi Stena Line yn Harbwr Abergwaun. Bydd y prosiect yn cynnwys carthu 2,500m3 ag aradr, gosod ategwaith clawdd concrit wedi’i atgyfnerthu â pholion, gosod polion canllaw o ddur tiwbaidd, amddiffynfeydd meini fel amddiffyniad rhag erydiad; a gwaith ategol a dros dro.
Mae copïau o'r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol gan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Stena Line Cyf, Harbwr Abergwaun, Wdig, Sir Benfro, SA64 0BU.
Mae’n bosibl hefyd lawrlwytho copïau o'r datganiad amgylcheddol a'r dogfennau uchod – gweler isod gweler isod o’r gofrestr gyhoeddus drwy chwilio am CML2612.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai y bydd rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch y cais a'r datganiad amgylcheddol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru trwy ysgrifennu at:
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bostio marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk erbyn 8 Gorffenaf 2026. Dylai'r sylwadau fod wedi'u dyddio a nodi'n glir enw (mewn priflythrennau) a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Dyfynnwch gyfeirnod CML2612 yn eich holl ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant hefyd ar gael i'w gweld yn gyhoeddus.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect, yn rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Coastal Group Members
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
Diddordebau
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Development
- EIA
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook