Hysbysiad o Gais am waith carthu cynnal a chadw ym marina Monkstone, Afon Nedd

Trosolwg

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009

Hysbysiad o Gais am waith carthu cynnal a chadw ym marina Monkstone, Afon Nedd

Hysbysir drwy hyn fod Monkstone Cruising & Sailing Club Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer ymgymryd â gwaith carthu cynnal a chadw i ostwng dyfnder y marina i ddyfner pwrpasol o 2.2 m islaw sil y llifddor (1.2m o ostyngiad yn y dyfnder). Mae’r gwaith carthu yn cael ei wneud oddeutu bob tair blynedd i hwyluso mynediad parhaus i fasn y marina. Bydd y deunydd sy’n cael ei dynnu oddi yno yn cael ei ollwng i Afon Nedd pan fydd y llanw ar drai.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais DML2629.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

Neu yrru e-bost at
marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 18 Tachwedd 2026, gan ddyfynnu'r cyfeirnod: DML2629

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. 

Yn cau 18 Tach 2026

Wedi agor 20 Hyd 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project