Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod Rightacres Property Co LTD wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu, am drwydded forol ar gyfer gwaith gwella glan yr afon yn y Cei Canolog, Caerdydd.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2216. Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.
Share
Share on Twitter Share on Facebook