Cais am amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais
Trosolwg
HYSBYSIAD CYHOEDDUS DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
Cais am amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais
Hysbysir drwy hyn fod Menter Môn Morlais Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 22 Hydref 2025 a 29 Hydref 2025.
Mae Menter Môn Morlais Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i amrywio drwydded forol ORML1938 Parth Arddangos Morlais er mwyn gosod dyfeisiau ar wely’r môr sy’n dod i’r wyneb. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.
Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni tan y 1 Ebrill.
Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol wneud hynny'n ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy ebostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 1 Ebrill.
Mae’n rhaid cyflwyno'r sylwadau'n ysgrifenedig, wedi'u dyddio, gan nodi'r enw'n glir (mewn priflythrennau) ynghyd â chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y sawl sy'n cyflwyno'r sylwadau.
Dyfynnwch y cyfeirnod ORML1938v1 ym mhob darn o ohebiaeth.
Eir i'r afael â sylwadau gan aelodau'r cyhoedd yn unol ag Atodlen 5 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Caiff copïau o sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru eu hanfon at yr ymgeisydd ac efallai y byddant ar gael yn gyhoeddus hefyd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Wrth benderfynu ar y cais, efallai y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect, rhoi caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect ynghyd ag amodau, neu wrthod caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Coastal Group Members
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
Diddordebau
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Development
- EIA
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook