Cais am amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais

Trosolwg

HYSBYSIAD CYHOEDDUS DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009 RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

Cais am amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais

Hysbysir drwy hyn fod Menter Môn Morlais Limited wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 22 Hydref 2025 a 29 Hydref 2025.

Mae Menter Môn Morlais Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i amrywio drwydded forol ORML1938 Parth Arddangos Morlais er mwyn gosod dyfeisiau ar wely’r môr sy’n dod i’r wyneb. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni tan y 1 Ebrill.

Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Ar gau 1 Ebr 2026

Wedi agor 19 Chwef 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project