Ar-lein - Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru

Ar gau 20 Chwef 2024

Wedi'i agor 7 Chwef 2024

Trosolwg

Hoffai Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru eich gwahodd i ymgysylltu ag “Y Môr a Ni: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llythrennedd Morol Cymru” mewn dau weithdy ar-lein: 

  • 21 Chwefror 2024 - 2-3:30pm Ar-lein
  • 21 Chwefror 2024 – 7-8:30pm Ar-lein

Rydym yn ymwybodol bod rhai wedi methu â mynychu’r gweithdai wyneb yn wyneb a gynhaliwyd oherwydd ymrwymiadau gwaith a mynediad. Mae hwn yn gyfle i ymgysylltu mewn ffordd arall.

Gellir disgrifio llythrennedd morol yn ei ystyr symlaf fel deall eich dylanwad ar y môr, a dylanwad y môr arnoch chi. Mae llawer o waith gwych wedi bod yn digwydd yng Nghymru i gefnogi’r syniad hwn, ac roedd rhwydwaith o ymarferwyr morol ac arfordirol yn cydnabod yr angen am weledigaeth, strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer y gwaith hwn ac felly aethant ati i’w datblygu.

Rydym am rannu hyn gyda chi a deall yn well sut y gallwn symud y gwaith yn ei flaen, gyda'n gilydd.

Nod y gweithdai:

Dod ag ymarferwyr morol ac arfordirol yng Nghymru at ei gilydd i gefnogi datblygiad y Strategaeth Llythrennedd Eigion yng Nghymru (Y Môr a Ni).

Amcanion:

  • Rhoi gwybod i grŵp ehangach am waith y gweithgor Llythrennedd Morol a chyflwyno drafft o Y Môr a Ni: Strategaeth a chynllun cyflawni
  • Annog trafodaeth egnïol a mewnbwn er mwyn mireinio'r strategaeth a'r cynllun cyflawni
  • Ceisio ymrwymiad ehangach i wireddu’r cynllun cyflawni

Bydd gwahoddiad i gyfarfod MS Teams yn cael ei anfon ar 20 Chwefror ar gyfer y digwyddiad hwn ar ôl cofrestru.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members

Diddordebau

  • Development