HYSBYSIAD O GAIS AM WAITH ADEILADU A CHARTHU CYSYLLTIEDIG Â PHROSIECT ESTYNIAD PARC YNNI MOSTYN

Closed 20 May 2024

Opened 8 Apr 2024

Overview

Hysbysiad Cyhoeddus Deddf Y Môr A Mynediad I'r Arfordir 2009 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 Hysbysiad O Gais Am Waith Adeiladu A Charthu Cysylltiedig  Phrosiect Estyniad Parc Ynni Mostyn

Hysbysir drwy hyn fod Porthladd Mostyn Cyf, Ffordd yr Arfordir, Mostyn, Sir y Fflint wedi rhoi mwy o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cais uchod yn unol â Rheoliad 14 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’). Cyhoeddwyd hysbysiad o'r cais a'r datganiad amgylcheddol ar 27 Ionawr 2023 a 3 Chwefror 2023.

Mae Porthladd Mostyn Cyf wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 i adeiladu wal newydd i’r cei ac adfer tua 4.5h o dir y tu ôl i’r morglawdd newydd. Bydd angen cynnal gwaith carthu er mwyn creu angorfeydd newydd, a bydd angen dyfnhau angorfeydd cyfredol a’r sianel ddynesu ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw yn y dyfodol. Mae angen caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar y prosiect ac mae'n destun y gofyniad am asesiad o’r effaith amgylcheddol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae datganiad amgylcheddol wedi cael ei baratoi gan yr ymgeisydd.

Mae copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol mewn Llyfygell Treffynnon, Sir y Fflint tan y 20 Mai 2024.

Gallwch hefyd gael copïau o'r wybodaeth ychwanegol ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/neu drwy e-bostio CNC yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2283.

Os gofynnir am gopïau caled o'r dogfennau uchod, efallai bydd yn rhaid talu costau nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Areas

  • All Areas

Audiences

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Interests

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project