Mae tyfu coed brodorol o stoc hadau lleol yn helpu i sicrhau bod y coed rydym yn eu plannu yn gweddu orau i amodau lleol ac yn cynnig y budd mwyaf i fywyd gwyllt a choetiroedd lleol. Er mwyn sicrhau bod gennym ddigonedd o'r coed brodorol, lleol hyn, rydym yn gofyn i grwpiau addysg a dysgu casglu mes yn eu hardal leol.
- Gwyliwch ein gweminar Miri Mes sut i gymryd rhan
- Gweler Vlog buddugol Ysgol Gynradd Albany o 2023.
- Cynlluniwch rai cyfleoedd dysgu ychwanegol gyda'n hadnoddau Coed a Choetiroedd.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu gwau rhai Miri Mes i'ch cynllunio, codi arian ar gyfer eich lleoliad, helpu i ddiogelu'r rhywogaethau coed eiconig hyn a chael eich dysgwyr i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu amdano.
2024:
Gwyddom fod llawer o blant a lleoliadau addysg ledled Cymru yn mwynhau cymryd rhan yn ein hymgyrch Miri Mes bob blwyddyn.
Yn anffodus, wrth i ni aros am ganlyniad ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gynigion i newid strwythur staffio CNC, rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i oedi’r ymgyrch eleni.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae CNC wedi bod yn ymgynghori â staff ac Undebau Llafur ar gynigion ar gyfer newidiadau i’w strwythur staffio fel rhan o’r ymgynghoriad Achos dros Newid. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Medi ac mae Bwrdd CNC yn bwriadu cyfarfod i ystyried a gwneud penderfyniad ar y cynigion ganol mis Hydref.
Gan y byddwn yn cyfathrebu canlyniad y broses gyda’n cydweithwyr ar yr adeg sydd fel arfer yn cyd-fynd ag ymgyrch Miri Mes, rydym wedi penderfynu na fydd yn bosibl i ni gynnal yr ymgyrch eleni.
Nid yw’r penderfyniad i oedi yn cynrychioli unrhyw benderfyniadau swyddogol a wnaed mewn ymateb i unrhyw un o’r cynigion yn yr ymgynghoriad Achos dros Newid (sy’n dal i gael ei ystyried). Bydd y penderfyniad tymor hwy ar gyfer ymgyrch Miri Mes yn cael ei wneud yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.
Gwyddom y bydd hyn yn siom i lawer ohonoch. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a chefnogi’r ymgyrch hyd yn hyn.
Yn y cyfamser, gallwch barhau i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau addysg ar-lein ar ein gwefan.