I ddathlu degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig nifer o fwrsariaethau teithio i alluogi lleoliadau addysg yng Nghymru i ymweld â rhan o Lwybr yr Arfordir.
Mae'r llwybr cerdded pellter hir sy’n 870 milltir o hyd yn rhedeg o ffin Cymru ger Caer, i Gas-gwent yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae'r Llwybr yn cynnig cyfleoedd dysgu a phrofiad unigryw a chyffrous i bob oedran a gallu i gefnogi'r gwaith o ddarparu cwricwla ffurfiol ac anffurfiol.
Dychmygwch sut y gallai taith i Lwybr yr Arfordir ddod â dysgu'n fyw!
Allai eich dysgwyr helpu i hyrwyddo'r Llwybr drwy ddylunio taflen hyrwyddo neu ysgrifennu cylchlythyr? Pa mor hir fyddai'n ei gymryd i'ch dysgwyr gerdded Llwybr Arfordir Cymru i gyd? O smyglo i gadwyni bwyd, celf arfordirol i ddysgu am y cynefinoedd a'r tirffurfiau ar hyd arfordir Cymru, ewch i'r Llwybr i ddarganfod y cyfleoedd dysgu trawsgwricwlaidd a'r ymdeimlad pwerus o 'gynefin' y mae Llwybr Arfordir Cymru yn ei gynnig.
Gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau sydd gennym i gefnogi eich ymweliad yma: Llwybr Arfordir Cymru
Gellir gwneud ceisiadau am hyd at £200 tuag at y gost o gludo eich dysgwyr i Lwybr Arfordir Cymru ac oddi yno.
I gael derbyn y bwrsari, bydd i rhaid i chi:
Noder: Mae'r cyfnod ymgeisio’n cau ar 17 Mehefin 2022 a rhaid cynnal yr ymweliadau cyn 31 Rhagfyr 2022.
Bydd ceisiadau cymwys yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Share
Share on Twitter Share on Facebook