Taclo Tipio Cymru: adnoddau ymgyrchu rhad ac am ddim
Overview
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Taclo Tipio Cymru yn rhedeg yr ymgyrch Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu . Mae'r ymgyrch yn annog perchnogion tai yng Nghymru i ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser i gael gwared ar wastraff gormodol ac eitemau cartref diangen o'u cartrefi.
Gyda’ch help a’ch cefnogaeth chi gallwn godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ymhellach o ddyletswydd gofal o ran gwastraff y cartref, dal ati i daclo tipio anghyfreithlon yng Nghymru a gwarchod llawer mwy o bobl rhag cael eu twyllo gan dipwyr anghyfreithlon.
Negeseuon allweddol y tu ôl i'r ymgyrch hon
- Os ydych chi'n talu i rywun gael gwared ar wastraff o'ch cartref, gwiriwch bob amser fod ganddyn nhw drwydded cludo gwastraff
- Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gadarnhau bod y person rydych chi'n ei ddefnyddio yn gludwr gwastraff cofrestredig
- Byddwch yn ymwybodol o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cynnig gwaredu gwastraff yn rhad, gallai hynny fod yn arwydd o dipiwr anghyfreithlon
- Os byddwch chi’n rhoi eich gwastraff i rywun arall a’i fod yn cael ei dipio’n anghyfreithlon - gallech wynebu dirwy neu erlyniad, a bod mewn perygl o gael cofnod troseddol
- Ceisiwch osgoi talu gydag arian parod. Nodwch wneuthuriad, model a rhif cofrestru'r cerbyd
Adnoddau am ddim yr ymgyrch
Mae ein pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau am ddim i unrhyw sefydliad eu defnyddio. Gallwch gael golwg ar unrhyw un o'r asedau unigol a’u lawrlwytho o'r dolenni isod.
Taflenni | Posteri | Sticeri ac Arwyddion | Fideos a Ffilmiau Byrion | Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol | Testun Cyfryngau Cymdeithasol
Neu cyrchwch a lawrlwythwch y pecyn cymorth llawn drwy glicio yma [link to full zipped toolkit]
Ewch i’r adnoddau iaith Gymraeg [must link to new page and vice versa].
Taflenni
Lawrlwytho:
Gwastraff busnes: ydych chi'n waredu'n gyfrifol? | Wyddoch chi i ble mae eich gwastraff yn mynd? | Er sylw pob landlord | Teiars gwastraff
Posteri
Lawrlwytho: Gall crefftwyr gael dirwy A4 | Siopau elusen - gollwng rhoddion yn gyfrifol | Cludwyr gwastraff: sut i osgoi edrych fel tipiwr anghyfreithlon ar Facebook | Sut y gall perchnogion tai osgoi tipwyr anghyfreithlon ar Facebook | Sut y gall perchnogion tai osgoi tipwyr anghyfreithlon ar-lein | Sut i amddiffyn eich grŵp Facebook rhag tipwyr anghyfreithlon
Sticeri ac Arwyddion
Lawrlwytho: A oes gennych chi wastraffu swmpus nad yw'n ffitio yn eich bin? | Wyddoch chi i ble mae eich gwastraff yn mynd? | Arwyddion tipio anghyfreithlon - dwyieithog | Dyletswydd Gofal - ochr fan (fformat tirlun a dwyieithog)
Fideos a Ffilmiau Byr
Gweld mwy ar Taclo Tipio Cymru - YouTube
Graffeg y Cyfryngau Cymdeithasol
Dyletswydd Gofal
Lawrlwytho: Wyddoch chi i ble mae eich gwastraff yn mynd? | Gofalwch nad yw eich gwastraff yn diweddu yma | Eich dyletswydd chi yw gofalu | Byddwch yn ddoeth ynglŷn â throseddau tipio | Mae 70% o’r gwastraff sy’n cael ei dipio anghyfreithlon yn dod o’r cartref
Gwastraff Cartref a Gardd
Lawrlwytho: Gwneud ychydig o DIY? | Mae dympio gwastraff gwyrdd yn drosedd
Gadael Gwastraff y Tu Allan
Lawrlwytho: Gadael bagiau wrth ymyl biniau | Cynnig dodrefn ar ochr y ffordd | Gadael bagiau y tu allan i fanciau casglu elusennol
Deiliaid Tai - Peidiwch â Thalu Ddwywaith
Lawrlwytho: Peidiwch â thalu ddwywaith | Peidiwch â chael eich twyllo | Peidiwch â chael eich sgamio
Cael Gwared â Gwastraff - Byddwch yn Ofalus
Lawrlwytho: Cael gwared o wastraff | Rhybudd | Rhybudd 2 | Dirwy
Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon
Lawrlwytho: Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon
Testun ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Tipwyr anghyfreithlon Facebook | Wythnos tipwyr anghyfreithlon Facebook
Areas
- All Areas
Audiences
- Anglers
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Citizens
- citizens
- Coal Authority
- Coastal Group Members
- Cockles
- Community Volunteers
- DCWW
- Educators
- EPR and COMAH facilities
- Equality, Diversity and Inclusion
- Flooding
- Fly-fishing
- Forest Management
- Gwent
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Llifogydd
- marine developers
- marine planners
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Newport Green and Safe Spaces
- NFU
- Rivers
- SoNaRR2020
- South West Stakeholder group
- Wales Biodiversity Partnership
- water companies
- Woodland Opportunity Map users
Interests
- Woodland Opportunity Map



































Share
Share on Twitter Share on Facebook