Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Dyffryn Gwy yn cynnwys 13 coetir yn Sir Fynwy sy'n cynnwys tua 1,946 hectar. Glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetiroedd llydanddail brodorol a chanolfannau trefol yn bennaf yw cefndir y rhan fwyaf o’r coetiroedd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled-naturiol Hynafol (ASNW), ac mae Dyffryn Gwy yn un o’r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru ar gyfer Coetir Hynafol. Mae’r coed hefyd yn cael defnydd da gan y gymuned leol ar gyfer hamdden anffurfiol.
Isod ceri crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Gogledd Dyffryn Gwy er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Cynhelir sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Narth ar 6 Rhagfyr 2023. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwig ar gael i drafod dyfodol y goedwig yn ardal Gogledd Dyffryn Gwy.
Share
Share on Twitter Share on Facebook