Cynlluniau Newydd ar Gyfer Gogledd Dyffryn Gwy (Wye Valley North)
Feedback updated 26 Apr 2024
We asked
Fe ofynnon ni am eich sylwadau ar y Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng Ngogledd Dyffryn Gwy. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu’r gwaith rheoli ar gyfer y coetiroedd, gan gyflwyno’r amcanion hirdymor ar gyfer pob un o’r coetiroedd (adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu waith rheoli coedwigaeth safonol, er enghraifft), a’r ymagwedd gyffredinol at unrhyw ailstocio, er enghraifft gyda rhywogaethau llydanddail brodorol neu goed conwydd. Ond nid yw’r cynllun yn ymdrin â gwaith rheoli penodol yr ystâd o ddydd i ddydd. Ein Tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig sy’n gwneud hyn, ac mae eu gwaith yn helpu i lywio’r cynllun.
You said
Fe ddaeth niferoedd eithaf uchel o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i law, gyda 15 o bobl yn cynnig sylwadau, sy’n dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi’r coetiroedd yn Nyffryn Gwy. Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb. Fe gawsom rywfaint o adborth hefyd yn ein sesiwn galw heibio yn y Narth ym mis Rhagfyr.
Roedd cefnogaeth eang i’r nodau i adfer a rheoli coetir lled-naturiol hynafol ar yr ystâd, gwella bioamrywiaeth, a chynyddu niferoedd y coed llydanddail brodorol yn y coetiroedd.
Roedd rhai o’r ymatebion yn mynegi pryderon ynghylch cynnal a chadw llwybrau troed yng nghoetiroedd Gogledd Dyffryn Gwy ac roedd rhai yn pryderu am ansawdd dŵr Afon Gwy a sut mae coedwigaeth o bosib yn cyfrannu at hynny ac eisiau sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried a’i reoli’n briodol. Codwyd rhai pryderon hefyd ynghylch sbesimenau penodol neu grwpiau o goed arbennig yn y coetiroedd a beth fyddai’n digwydd iddyn nhw.
Roedd rhywfaint o anfodlonrwydd ynghylch defnyddio cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn y goedwig a’r difrod maen nhw’n ei achosi, a hefyd roedd cwestiynau ynghylch rheoli baeddod gwyllt.
We did
Rydym wedi rhoi sylw i’r sylwadau a dderbyniwyd ac maent wedi’u rhannu â thimau perthnasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gellir, lle bo modd, eu gweithredu neu eu cofnodi i’w hystyried ar gyfer gwaith rheoli yn y dyfodol. Mae lefel y diddordeb yn y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn arwydd o’r gwerthfawrogiad o’r coetiroedd yn lleol a chan ymwelwyr, o ran hamdden ac iechyd a lles. Mae hynny’n rhywbeth rydyn ni am ei gefnogi a’i annog.
Lle bo’r geiriad yn yr amcanion heb fod yn glir, er enghraifft ‘isadeiledd’, rydym wedi ceisio addasu hyn ac rydym hefyd wedi ychwanegu amcan penodol yn ymwneud â chynnal a chadw llwybrau troed.
Rydym yn sylweddoli bod yna rywfaint o bwysau yn sgil gweithgareddau hamdden sy’n peri pryder, ac rydym yn gweithio’n galed i newid hyn ac i annog gweithgareddau hamdden cyfrifol. Dylid rhoi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, er enghraifft gyrru yn anghyfreithlon oddi ar y ffordd, i’n llinell gymorth digwyddiadau (03000 65 3000) ac am unrhyw weithgareddau anghyfreithlon i’r llinell gymorth a/neu’r heddlu drwy ffonio 101.
Codwyd rhai pryderon ynghylch gweithgareddau coedwigaeth a’u heffaith ar ddŵr ffo ac erydiad pridd, yn enwedig mewn perthynas ag Afon Gwy. Mae gweithgareddau coedwigaeth yn dilyn arferion gorau i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd lleol, ac er y gallant edrych yn hyll weithiau, cânt eu gwneud yn unol â Safon Coedwigaeth y DU a Chynllun Sicrwydd Coetiroedd y DU. Mae Safon Coedwigaeth y DU yn rhoi arweiniad i sicrhau bod dŵr ffo yn cael ei reoli’n briodol, a dilynir yr arweiniad hwn yn ystod ein holl weithrediadau. Mae’n rhaid i ni wneud gwaith cwympo coed yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd hi’n wlypach, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth rhywogaethau a warchodir, er mwyn osgoi amharu ar rywogaethau fel pathewod neu adar yn ystod y tymor nythu.
Rydym yn gweithio’n galed i gydbwyso’r gofynion ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a’r tri amcan a nodir yn Coetiroedd i Gymru: Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed (2018), eu bod yn darparu buddion i gymunedau, i fioamrywiaeth a’r amgylchedd, ac i’r economi. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil clefydau fel Phytophthora ramorum, sydd wedi effeithio ar goed llarwydd, ynghyd â chlefyd coed ynn a chlefydau eraill sy’n effeithio ar wytnwch y coetiroedd.
Overview
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Dyffryn Gwy yn cynnwys 13 coetir yn Sir Fynwy sy'n cynnwys tua 1,946 hectar. Glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetiroedd llydanddail brodorol a chanolfannau trefol yn bennaf yw cefndir y rhan fwyaf o’r coetiroedd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled-naturiol Hynafol (ASNW), ac mae Dyffryn Gwy yn un o’r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru ar gyfer Coetir Hynafol. Mae’r coed hefyd yn cael defnydd da gan y gymuned leol ar gyfer hamdden anffurfiol.
Amcanion Gogledd Dyffryn Gwy
Isod ceri crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
- Mae adfer y coetir hynafol yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig yn brif amcan yn unol â Datganiad Ardal y De-ddwyrain, Strategaeth Coetir Llywodraeth Cymru, a Chynllun Gweithredu AHNE Dyffryn Gwy, gyda chael gwared ar goed conwydd presennol yn raddol dros amser trwy Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith gan ganiatáu aildyfiant naturiol o goed llydanddail a thyfu amrywiaeth o rywogaethau.
- Cynnal cynhyrchu pren lle bo’n briodol, gan gynnwys coed llydanddail cynhyrchiol. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i amrywio rhywogaethau a strwythur y coetiroedd, a fydd yn gwella cynaliadwyedd a gwytnwch y coedwigoedd, yn ogystal â darparu buddion economaidd.
- Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig i gynyddu eu gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau ac ar yr un pryd creu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cael gwared ar y clystyrau o larwydd sy'n weddill, rheoli coed ynn, a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn briodol, gan gynnwys llawr-geirios.
- Buddsoddi mewn seilwaith coedwig i ddarparu gwell mynediad i ganiatáu amodau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd, teneuo’n rheolaidd lle bo’n bosibl, cael gwared ar y clystyrau llarwydd sy’n weddill, ac amcanion cadwraeth.
- Gweithio gyda phartneriaid a thimau CNC eraill i nodi a darparu cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd â blaenoriaeth, ardaloedd gwarchodedig o fewn a gerllaw coetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwig, a rhywogaethau â blaenoriaeth a rhai a warchodir, i wella gwydnwch a chysylltedd ac atal effeithiau negyddol gweithgareddau rheoli. Megis cysylltu ac adfer coetir hynafol a brodorol, prysgoedio, cysylltu cynefinoedd a rhodfeydd agored, ystyried yr amrywiol rywogaethau o ystlumod sydd i’w cael yn yr ardal yn ystod unrhyw weithgareddau rheoli, ac adfer ac ehangu ardaloedd o weundir agored lle bo’n briodol.
- Gweithio gyda phartneriaid i annog a chynyddu defnydd cyfrifol a hamdden effaith isel ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i sicrhau manteision llesiant i gymunedau lleol, grwpiau defnyddwyr ac ymwelwyr, ac i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd, a thipio anghyfreithlon.
- Ni ddylai rheoli coedwigaeth gyfrannu at y lefel bresennol o berygl llifogydd o fewn y coetiroedd ac unrhyw le oddi ar y safle a lle bo modd, dylid rhoi mesurau ar waith i leihau unrhyw berygl llifogydd posibl; y bwriad yw cyflawni’r ddau drwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Goedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol; a thrwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol wrth gynllunio gweithrediadau cwympo. Wrth ystyried mesurau i leihau maint y llif sy'n gadael blociau coedwig o ganlyniad i waith cwympo, dylid cynnwys Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
- Ni ddylai rheoli coedwigaeth achosi unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy'n draenio oddi ar y safle trwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol, a dylai gymryd sylw o Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren (2021-2027).
- Gweithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau i nodi sut a ble y gall Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ddarparu atebion seiliedig ar natur ar gyfer iechyd a lles a darparu cyfleoedd i gysylltu pobl â byd natur, a lle gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o’i reoli.
- Bod yn gymdogion da - Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a gweithrediadau sydd ar ddod i wella perthnasoedd a gwybodaeth am sut a pham y caiff yr ystad ei rheoli, lleihau gwrthdaro, ac annog perthnasoedd gwaith agosach.
- Gweithio gyda chymdogion a rhanddeiliaid eraill gyda golwg ar reoli ceirw, gwiwerod llwyd a baeddod gwyllt ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac ardaloedd cyfagos i leihau effeithiau negyddol. Rheoli mannau agored ar ystad goetir Llywodraeth Cymru i hwyluso rheoli bywyd gwyllt.
Mapiau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd er mwyn ymdrin â Phytophthora ramorum
- Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Gogledd Dyffryn Gwy er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
What happens next
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Events
-
Sesiwn galw heibio – Coedwigaeth
From 6 Dec 2023 at 11:30 to 6 Dec 2023 at 18:00Cynhelir sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Narth ar 6 Rhagfyr 2023. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwig ar gael i drafod dyfodol y goedwig yn ardal Gogledd Dyffryn Gwy.
Areas
- Trellech United
Audiences
- Management
- DCWW
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook