Crëwyd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 1 Ebrill 2013 i sicrhau bod adnoddau naturiol ac amgylchedd Cymru yn cael eu rheoli, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy mewn ffordd sy'n dda i bobl, yn dda i'r amgylchedd ac yn dda i'r economi, swyddi a menter.
Mae gennym gylch gwaith eang ac mae rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YCLlC) yn un o'n cyfrifoldebau allweddol. Rheolir YGLlC yn unol ag egwyddor rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Wrth wraidd y dull hwn mae pwysigrwydd cydbwyso buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd coedwigoedd a'r gydnabyddiaeth bod ein coedwigoedd yn cyflawni ystod eang o amcanion. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â marchnata pren o YGLlC.
Yn 2016 gwnaethom ddiwygio hen Gynllun Marchnata Pren Comisiwn Coedwigaeth Cymru i gyd-fynd ag egwyddorion Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers hynny mae marchnad a disgwyliadau'r sector coedwigaeth a deddfwriaeth newydd wedi newid, ac rydym o'r farn ei bod yn briodol adolygu'r cynllun cyfredol i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r adolygiadau cyfredol o gynlluniau adnoddau coedwigoedd a'r cyfnod cwympo coed o 2022-2026.
Byddwn yn galw'r ddogfen newydd hon yn Gynllun Gwerthu a Marchnata Pren.
Yn fwy arwyddocaol, mae amgylchiadau wedi newid gyda dyfodiad y clefyd llarwydd Phytophthora ramorum. Lluniwyd rhaglen gynaeafu YGLlC dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i raddau helaeth trwy ymateb i Strategaeth Rheoli Clefydau Llywodraeth Cymru (LlC), bodloni cydymffurfiad â Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol, a'n hymagwedd strategol at leihau llarwydd ar yr ystad. O ganlyniad, rydym wedi cynaeafu a marchnata cyfrannau mwy o bren llarwydd na'r disgwyl ac rydym yn parhau i wneud hynny. Hysbyswyd ein cwsmeriaid ym mis Rhagfyr 2012 am y llif cyfnewidiol o larwydd a rhywogaethau eraill ar lefel Cymru ac ar lefel leol.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid i gyflawni'r canlyniadau gorau i Gymru, ac mae'r broses ymgynghori hon yn elfen bwysig o'n hymagwedd gyffredinol. Rydym yn gwybod bod lle i wella bob amser, ac rydym wedi gwrando ar yr adborth a roesoch inni ers ein sefydlu yn 2013.
Ein blaenoriaethau yw:
Os hoffech chi gwblhau'r ymgynghoriad hwn trwy fformat gwahanol megis copi caled, ffoniwch 07733 001515.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw llywio datblygiad ein Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 31 Mawrth 2026.
Byddwn yn cynhyrchu'r cynllun hwn i helpu i gynnal ein hardystiad i Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS) ac i sicrhau ein bod yn cyflawni yn erbyn yr amcanion polisi perthnasol a nodir yn strategaeth 50 mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer coed a choetiroedd yng Nghymru “Coetiroedd i Gymru”.
Mae cyflwyno Deddf yr Amgylchedd, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cynnwys darparu datganiadau ardal a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y dogfennau a'r byrddau gwasanaeth hyn dros amser yn dylanwadu ar gyfeiriad y coedwigoedd hynny o fewn ardal benodol yng Nghymru. Gallai ein gweithgareddau gwerthu a chyflenwi pren yn y dyfodol gael eu haddasu i gefnogi uchelgeisiau Ardaloedd o'r fath.
Gallai ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd effeithio ar ein sefyllfa fasnachu a'n cyfleoedd yn y dyfodol a bydd angen i'r cynllun marchnata hwn addasu i newidiadau o'r fath yn ôl yr angen.
Share
Share on Twitter Share on Facebook