Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf

Closed 8 Apr 2022

Opened 4 Mar 2022

Overview

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf yn cynnwys 7 coetir yng Nghwm Rhondda, sy’n 2,025 hectar gyda’i gilydd. Planhigfeydd conwydd yw’r coetiroedd yn bennaf ar lethrau’r dyffrynnoedd ac ar bennau’r bryniau. Mae rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng Nghwm Cwm Saerbren o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Tŷ-Isaf, ac mae SoDdGA Craig Pont drws nesaf i Goedwig Mynydd Ton uwchlaw Llwynypia.

Ffridd a rhostir agored yw’r cynefinoedd sy’n ffinio â’r coedwigoedd hyn ar bennau’r bryniau, gyda chorsydd mewn mannau, a choetiroedd brodorol a glaswelltir amaethyddol wedi’i wella ar lethrau’r dyffrynnoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd hyn hefyd wrth ymyl cymunedau sy’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden ysgafn ar gyfer iechyd a lles.

Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:

Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf

Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:

Esboniad o allweddi’r map                                          

Mapiau

Map 1 - amcanion hirdymor

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Llwyrgwympo coed llarwydd yn y deng mlynedd nesaf (tua 209 hectar)
  • Mwy o goed llydanddail brodorol ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
  • Adfer Coetiroedd Hynafol a Phlanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol.
  • Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed i leihau planhigfeydd un rhywogaeth.

Why your views matter

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cwm Rhondda Isaf er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig

What happens next

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.

Areas

  • Ferndale
  • Maerdy
  • Pontypridd Town

Audiences

  • Management
  • DCWW

Interests

  • Forest Management