Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf
Overview
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf yn cynnwys 7 coetir yng Nghwm Rhondda, sy’n 2,025 hectar gyda’i gilydd. Planhigfeydd conwydd yw’r coetiroedd yn bennaf ar lethrau’r dyffrynnoedd ac ar bennau’r bryniau. Mae rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng Nghwm Cwm Saerbren o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Tŷ-Isaf, ac mae SoDdGA Craig Pont drws nesaf i Goedwig Mynydd Ton uwchlaw Llwynypia.
Ffridd a rhostir agored yw’r cynefinoedd sy’n ffinio â’r coedwigoedd hyn ar bennau’r bryniau, gyda chorsydd mewn mannau, a choetiroedd brodorol a glaswelltir amaethyddol wedi’i wella ar lethrau’r dyffrynnoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd hyn hefyd wrth ymyl cymunedau sy’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden ysgafn ar gyfer iechyd a lles.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Mapiau
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Llwyrgwympo coed llarwydd yn y deng mlynedd nesaf (tua 209 hectar)
- Mwy o goed llydanddail brodorol ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Adfer Coetiroedd Hynafol a Phlanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol.
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed i leihau planhigfeydd un rhywogaeth.
Why your views matter
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cwm Rhondda Isaf er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig
What happens next
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Areas
- Ferndale
- Maerdy
- Pontypridd Town
Audiences
- Management
- DCWW
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook