Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Garw a Chwm Ogwr yn cynnwys 7 coetir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n tua 1708 hectar gyda’i gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yng ngogledd y cynllun yn sefyll ar ucheldir agored â llethrau dyffrynnoedd serth. Mae cynefin glaswelltir agored yn ffinio â’r coetiroedd ar yr ucheldir, a rhywfaint o gaeau, gwrychoedd a choetiroedd brodorol i’r de. Mae’r coetiroedd yn y de yn llai ac wedi’u lleoli ar gyrion Pen-y-bont.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Garw ac Ogwr
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Mapiau
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Garw a Chwm Ogwr er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook