Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig De Ebwy’n cwmpasu 11 coetir i’r gogledd o Gaerdydd a Chasnewydd, ac i’r de a’r dwyrain o Gaerffili. Mae llawer o’r coetiroedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol at ddibenion hamdden anffurfiol.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig De Ebwy
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Mapiau
Map 1 - Amcanion Hirdymor
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer De Ebwy er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig
Share
Share on Twitter Share on Facebook