Cynllun Adnoddau Coedwig y Trallwng

Ar gau 20 Tach 2022

Wedi'i agor 18 Hyd 2022

Adborth wedi'i ddiweddaru 28 Mai 2024

Gofynnon ni

Fe ofynnon ni am eich sylwadau ar Gynllun Adnoddau Coedwig Breiddin, sy’n gymysgedd o goetir preifat a rhywfaint o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru - oll yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu’r gwaith rheoli ar gyfer y coetiroedd, gan gyflwyno’r amcanion hirdymor ar gyfer pob un o’r coetiroedd (adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu waith rheoli coedwigaeth safonol, er enghraifft), a’r ymagwedd gyffredinol at unrhyw ailstocio, er enghraifft gyda rhywogaethau llydanddail brodorol neu goed conwydd. Ond nid yw’r cynllun yn ymdrin â gwaith rheoli penodol yr ystâd o ddydd i ddydd. Ein Tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig sy’n gwneud hyn, ac mae eu gwaith yn helpu i lywio’r cynllun. 

Dywedoch chi

Lefel isel o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad hwn, gyda dim ond 3 o bobl yn cynnig sylwadau. Fodd bynnag, gwyddom fod y coetiroedd hyn yn bwysig oherwydd nifer yr ymwelwyr bob blwyddyn. Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb.  

Roedd cefnogaeth i amcanion y cynllun sydd â’r nod o nodi, gwarchod a chynnal nodweddion hanesyddol, cynyddu niferoedd y coed llydanddail brodorol a gwella bioamrywiaeth.  

Roedd pryderon ynglŷn â chynnal a chadw llwybrau troed o fewn Cynllun Breiddin a siom nad oedd hyn wedi’i gynnwys fel amcan, ac roedd peth anfodlonrwydd ynghylch enw’r cynllun, sef ‘Y Trallwng’, yn hytrach na ‘Breiddin’, fel yr adwaenir y safle yn lleol. 

Gwnaethom ni

Rydym wedi rhoi sylw i’r sylwadau a dderbyniwyd ac maent wedi’u rhannu â thimau perthnasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gellir, lle bo modd, eu gweithredu neu eu cofnodi i’w hystyried ar gyfer gwaith rheoli yn y dyfodol.  

 

Rydym wedi diweddaru’r amcanion i gynnwys “Cynnal a gwella profiadau ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel a phleserus. Mae hawliau tramwy cyhoeddus a mannau eraill ble mae mynediad agored yn y cynllun yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, a dylid parhau gyda hyn. Bydd parhau i reoli o dan  
System Goedamaeth Fach ei Heffaith, gan recriwtio mwy o ardaloedd yn y dyfodol, ac ardaloedd eraill ble caiff coetir hynafol ei adfer yn raddol, yn gwella estheteg y goedwig yn y tymor hir.” 

Penderfynwyd hefyd newid enw’r cynllun i Gynllun Adnoddau Coedwig Breiddin. 

Rydym yn gweithio’n galed i gydbwyso’r gofynion ar y coetir i sicrhau buddion i gymunedau, i fioamrywiaeth a’r amgylchedd, ac i’r economi. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil clefydau fel Phytophthora ramorum, sydd wedi effeithio ar goed llarwydd, ynghyd â chlefyd coed ynn a chlefydau eraill sy’n effeithio ar wytnwch y coetiroedd. 

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth y Trallwng yn cynnwys coedwig y Trallwng a thri bloc cysylltiedig llai, sy’n 253.2 ha i gyd. Yn gorwedd rhwng ffordd yr A458 Trallwng-Amwythig a gorlifdir afon Hafren, coed conwydd sydd o fewn ardal y Cynllun yn bennaf, ond mae yno hefyd ardaloedd sylweddol o goed llydanddail a thir amaethyddol agored. Mae coedwig y Trallwng yn gorwedd ar ochr Cymru o’r ffin â Lloegr, ac mae pen dwyreiniol y goedwig yn gorwedd ar y ffin ei hun. Mae tref yr Amwythig wedi’i lleoli tua 7km i’r de-orllewin i’r Cynllun.

Mae’r cynefin sy’n amgylchynu blociau Cynllun y Trallwng yn cynnwys tir pori wedi’i amgáu, a gwrychoedd rhyngddynt ynghyd â chlytiau llai o goedwigoedd llydanddail a chonwydd. Mae coedwig y Trallwng yn cynnwys rhwydwaith mawr o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n ei chysylltu â’r dirwedd o’i hamgylch, ynghyd â maes parcio cyhoeddus ar y gwaelod a thirnod hanesyddol amlwg – Piler Rodney – ar y copa.

Mae Cynllun y Trallwng yn dod o fewn dwy o wahanfeydd dŵr dalgylch afon Hafren: o’r cydlifiad ag afon Camlad hyd y cydlifiad â Nant Bele; ac o’r cydlifiad â Nant Bele hyd y cydlifiad â Nant Sundorne. Mae’r ddwy wahanfa ddŵr wedi’u nodi’n rhai ‘Cymedrol’ yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod mae crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig y Trallwng, ac yna mapiau dangosol ar gyfer y Weledigaeth Hirdymor, Strategaethau Rheoli Coedwigoedd ac Ailstocio a gynigir ar gyfer y goedwig:

Prif Amcanion, Cyfleoedd a Blaenoriaethau:

  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddylunio gwaith cwympo coed a’r dewis o rywogaethau ailstocio.
  • Cynyddu’r ardaloedd coetir olynol / coetir afonol er mwyn gwella cydnerthedd cynefinoedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
  • Defnyddio cyfuniad o waith adfer naturiol ac ailstocio gofalus i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau coedwig er mwyn cryfhau yn erbyn plâu ac afiechydon ar yr un pryd â datblygu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy roi Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ar waith.
  • Cydweddu ymhellach effeithiau gweledol y coetiroedd â’r dirwedd ehangach, gan helpu i wella, Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol yr ardaloedd y maent yn gorwedd o’u mewn.
  • Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth ac archeolegol pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy gynnig amgylchedd amrywiol diogel a phleserus.

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi'r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:     

  • Symud ymlaen at adfer safleoedd coetir hynafol drwy dynnu coed conwydd a chreu cynefinoedd llydanddail brodorol. 
  • Cynyddu’r ardaloedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.
  • Cynnydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel coedwigoedd llydanddail brodorol.
  • Cynnydd yn yr amrywiaeth o goed llydanddail a chonwydd – o ran rhywogaethau ac oedran – er mwyn gwella cydnerthedd coetiroedd yn erbyn plâu ac afiechydon.
  • Cynnydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel cynefinoedd agored o flaenoriaeth. 
  • Cynyddu’r ardaloedd bach o le agored o amgylch y sgri ac wyneb y graig yn SoDdGA Bryn Breidden, gan wella addasrwydd y cynefin ar gyfer y casgliadau prin o blanhigion a geir yno.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer  Coedwig y Trallwng i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Welshpool Castle
  • Welshpool Gungrog
  • Welshpool Llanerchyddol

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig