Cynllun Adnoddau Coedwig Wysg a Glasfynydd
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae coedwig Glasfynydd ac Wysg yn cwmpasu mwy na 1,600 o hectarau o goetir conwydd yn bennaf sy’n cynnwys Glasfynydd, sef y prif floc coedwig, gyda’r Allt, y Batel, Glyn Tarell a Blaenbrynach. Mae’r coetiroedd i’w cael yn ne Powys ac eithrio rhan orllewinol Glasfynydd, sydd yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd mwyafrif y planhigfeydd eu sefydlu gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1960au. Mae’r coetiroedd wrthi’n cael eu hamrywio o ran oedran, a hynny o blanhigfeydd ag oedrannau tebyg i ddosbarthiadau oedran cymysg, er mwyn cynyddu cynefinoedd yr ymylon, rheoli’r cynnyrch pren, a lleihau effeithiau plâu a chlefydau.
Mae’r goedwig yn cyfateb i tua 1% o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a chyfran debyg o’r cynhaeaf pren blynyddol. Mae cymdogion y goedwig yn ddaliadau amaethyddol ucheldirol ar raddfa fawr a ffermydd eraill ar ganol yr iseldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cafodd rhan helaeth o’r goedwig ei sefydlu ar dir uchel, â phriddoedd gwlyb, sef amgylchedd sy’n cyfyngu ar y dewis o rywogaethau a’r dewisiadau ar gyfer rheoli, hynny yw Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith oherwydd y perygl y bydd y gwynt yn eu cwympo.
Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn anelu at amrywio rhywogaethau coed pan fo modd, yn arbennig ar ôl llwyrgwympo lle y mae coed llydanddail a phinwydd yn cynnig cyfleoedd i rywogaethau adar arbenigol. Bryniau agored a choedwigaeth yw rhan helaethaf y dirwedd, sy’n denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn, gyda golygfeydd o Ben y Fan a Fan Foel, a mynediad atynt. Ers i’r cynllun presennol gael ei ysgrifennu yn 2007, mae’r coed llarwydd, a geir ar ochrau cymoedd yn bennaf, wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, ac mae llawer o’r coed wedi’u llwyrgwympo o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Mae’r gwaith o adfer coetiroedd hynafol hyd yma wedi’i dargedu ar y llethrau serth gan anelu at broses naturiol o adfywio coed llydanddail.
Mae ardaloedd agored yn elfen allweddol o bob coetir; fodd bynnag, nid oes llawer o ardaloedd coedwig sy’n gysylltiedig â’i gilydd ac mae tir amaethyddol yn ne Powys yn darnio gorchudd coed cysylltiedig.
Blaenoriaethau
- Gwaith cynaeafu pren diogel, glân ac effeithlon.
- Gwaith ansawdd uchel o reoli tir ac ailstocio yn unol â Safon Goedwigaeth y DU.
- Iechyd coed, rheoli coed llarwydd ac ynn yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
- Adnabod cyfleoedd presennol ac yn y dyfodol o ran cysylltedd cynefinoedd, a chanfod adnoddau ar gyfer y cyfleoedd hyn.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Usk a Glasfynydd
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Usk a Glasfynydd er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Ardaloedd
- Llandovery
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook