Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Nant yr Arian yn cwmpasu ardal eang o goedwig i'r dwyrain o Aberystwyth. Mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol oherwydd y ganolfan ymwelwyr a'r llu o weithgareddau a digwyddiadau hamdden sy’n cael eu darparu yn y goedwig.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o'r amcanion ar gyfer coedwig Nant yr Arian
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Crynodeb o'r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Nant yr Arian er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig
We will look at what you have said and adapt the plans to.......
Share
Share on Twitter Share on Facebook