Cynllun Adnoddau Coedwig Mynyddoedd Cambria 2025

Yn cau 24 Rhag 2025

Wedi agor 18 Tach 2025

Trosolwg

View this page in English

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Cyd-destun a lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Mynyddoedd Cambria yn cynnwys sawl ardal helaeth o goedwigaeth yng nghanolbarth Cymru a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1960au ar gyfer cynhyrchu pren meddal. Mae ganddyn nhw arwynebedd cyfunol o 10,230 hectar (25,280 erw), sydd bron i ddeg y cant o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Y coedwigoedd yw coedwigoedd Tywi, Cwm Berwyn ac Irfon, wedi’u lleoli ar dir uchel anghysbell rhwng Tregaron a Llanwrtyd, i’r de o Bontrhydfendigaid, ac i’r gogledd o Lanymddyfri. Mae yna hefyd flociau coedwig llai yng Nghlywedog, Esgair Dafydd, Bwlchciliau a Garth Bank.

Plannwyd y coedwigoedd yn bennaf fel planhigfeydd o’r un oedran gydag ychydig o amrywiaeth o ran rhywogaethau. Mae rheolaeth fwy diweddar wedi canolbwyntio ar ailstrwythuro’r coedwigoedd i wella ansawdd a gwydnwch eu cynefin wrth ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o bren, a bydd y gwaith hwn yn parhau gyda’r Cynllun Adnoddau Coedwig.

Mae’r coedwigoedd wedi’u leoli o fewn tri awdurdod lleol: mae’r rhan fwyaf o’r blociau ucheldir mwy yng Ngheredigion, gydag ardal sylweddol (i’r dwyrain o afon Tywi) ym Mhowys; mae rhan ddeheuol Esgair Dafydd wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin.  Mae rhan ogledd-orllewinol Coedwig Tywi a rhan ogleddol Cwm Berwyn o fewn Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Ucheldir Ceredigion.

Mae’r goedwig yn ffinio â nifer o safleoedd dynodedig, yn fwyaf nodedig Ardal Gwarchodaeth Arbennig Elenydd – Mallaen. Cydnabyddir pwysigrwydd y goedwig i gynefinoedd ucheldir ehangach: mae’r rhain yn cynnwys tir agored a mawndiroedd heb goedwig, cynefinoedd afonydd, a choetir sy’n addas ar gyfer gwiwerod coch, y mae’r coedwigoedd hyn yn gadarnle iddynt.

Mae Coedwig Tywi yn ffurfio rhan sylweddol o ddalgylch cronfa ddŵr Llyn Brianne ac afon Tywi; mewn mannau eraill, mae’r blociau coedwig yn rhan o ddalgylchoedd afon Teifi ac afon Irfon / afon Gwy. Mae pwysigrwydd coedwigaeth i ansawdd dŵr yn cael ei adlewyrchu yn amcanion y cynllun hwn. 

Map trosolwg

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Amcanion

Mae rhai yn cael eu cymhwyso i ardaloedd penodol, ond lle na nodir yn wahanol, mae amcanion yn berthnasol i’r holl goedwigoedd.

Ymarfer coedwigaeth cyffredinol

  • Cynhyrchu llawer iawn o bren mewn ffordd gynaliadwy, gan wneud y gorau o ansawdd pren trwy ddewis rhywogaethau a tharddiad da, a gweithrediadau teneuo sydd wedi’u cynllunio’n dda.
  • Dylid cynnal potensial cynhyrchiol coedwigoedd, a’i wella lle bo modd, gan nodi bod y term hwn yn cynnwys darparu gwasanaethau ecosystemau eraill yn ogystal â chynhyrchu pren.
  • Dylai rheolwyr coedwigoedd weithio i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau coedamaeth, a gwella cyflwr coedwigoedd i leihau effeithiau a risgiau i’r amgylchedd naturiol.
  • Bydd gweithrediadau cynaeafu ac ailstocio yn cael eu defnyddio i gyflawni gwelliannau amgylcheddol ehangach yn y goedwig.

Coedwigoedd a bioamrywiaeth

  • Diogelu ac ehangu rhwydweithiau cynefinoedd presennol o fewn y goedwig, gan ddefnyddio coetiroedd torlannol llydanddail a choetiroedd olynol i ddarparu cysylltiadau naturiol rhwng cynefinoedd ucheldir agored, a rhwydwaith yr afonydd yn y dyffrynnoedd.
  • Manteisio ar gyfleoedd i gynnwys yr ardaloedd o fawndir sy’n cael eu hadfer o dan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn y rhwydweithiau cynefinoedd ehangach. (Mae ardaloedd adfer mawn yn bennaf yng nghoedwigoedd Tywi a Chwm Berwyn, mewn ardaloedd penodol a nodwyd ar fapiau’r Cynllun Adnoddau Coedwig.)
  • Gwella cyflwr ecolegol ardaloedd coetiroedd brodorol.

Mae cadwraeth gwiwerod coch o bwys arbennig ym Mynyddoedd Cambria, lle ceir un o ddim ond tair poblogaeth o’r rhywogaeth gynhenid hon sy’n dal i gael eu hystyried yn hyfyw yng nghanolbarth Cymru:

  • Bydd gwaith dylunio coedwigoedd yn atal gwiwerod llwyd rhag lledaenu i mewn i ardal graidd y wiwer goch, ac yn gwella’r ddarpariaeth o gynefinoedd a chysylltedd canopi ar gyfer gwiwerod coch yn y tymor hir.
  • Cymodi’r gwrthdaro posibl rhwng adfer mawndiroedd (h.y. creu ardaloedd agored mawr) a chadwraeth gwiwerod coch (sy’n gofyn am gysylltedd canopi coed), trwy ddylunio coedwigoedd mewn ffordd gydnaws a gweithrediadau wedi’u trefnu’n ofalus fesul cam.
  • Dylai cynllunio gweithredol sicrhau bod gwiwerod coch a’u cynefin yn cael eu diogelu’n briodol.

(Mae amcanion y wiwer goch yn berthnasol o fewn yr ardal a gwmpesir gan Brosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru; mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig ond nid yw’n cynnwys Bwlchciliau a Garth Bank.)

Coedwigoedd a newid hinsawdd

  • Ehangu’r ystod o ddosbarthiadau oedran a rhywogaethau coed o fewn y coetiroedd, gan fanteisio ar gyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf addas. Mae potensial cyfyngedig i arallgyfeirio trwy gyflwyno rhywogaethau sy’n hyfyw yn fasnachol ar safleoedd uchel sydd ag amlygiad uchel i’r tywydd a phriddoedd gwael.
  • Cynnal gwaith teneuo amserol i wella sefydlogrwydd coed, gwella ansawdd pren, a rhoi mwy o opsiynau ar gyfer rheoli yn y dyfodol.
  • Defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo’n briodol. (Mae rheolaeth systemau coedamaeth bach eu heffaith yn cael ei chymhwyso lle mae’r safle a chnwd y goedwig yn addas. Fel arfer, mae hyn yn golygu ardaloedd lle mae’n ymarferol cynnal gwaith teneuo rheolaidd, costeffeithiol, heb risg annerbyniol o goed a chwalwyd gan y gwynt.)
  • Lle nad ystyrir bod systemau coedamaeth bach eu heffaith yn ymarferol, gwneud yn siŵr bod ardaloedd wedi’u llwyrdorri yn cael eu cynllunio’n ofalus i raddfa sy’n addas ar gyfer y dirwedd.
  • Gwella gwydnwch yn y dyfodol i wyntoedd cryfion a thanau drwy dorri ardaloedd cydgyffyrddol mwy o goedwig uchel gyda rhodfeydd, rhwystrau tân, ac ardaloedd o goetir torlannol/olynol.
  • Gan weithio gyda’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, ymgymryd â gwaith adfer i adfer systemau hydroleg ac ecolegol sy’n gweithredu. Dim ond mewn ardaloedd diffiniedig y bydd datgoedwigo ar gyfer adfer mawndir yn digwydd, lle mae’r dull yn gyson â pholisi Cyfoeth Naturiol Cymru.

Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol

  • Rheoli henebion cofrestredig yn unol â chynlluniau rheoli safleoedd, gan ddilyn cyngor gan Cadw.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth ac archaeolegol o fewn y coedwigoedd gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan Heneb fel rhan o’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn. Mae’r coedwigoedd yn cynnwys safleoedd heb eu rhestru lle mae nodweddion treftadaeth yn arwyddocaol o ran deall a dehongli hanes lleol, a gallant fod yn bwysig i bobl leol.

Coedwigoedd a thirwedd

Gellir nodweddu blociau coedwig Mynyddoedd Cambria yn bennaf fel rhai ucheldirol ac anghysbell; mae eu maint mawr yn eu gwneud yn arwyddocaol ar y dirwedd wledig. Mae rhan ogleddol Tywi a Chwm Berwyn o fewn Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Ucheldir Ceredigion.

  • Addasu’r coedwigoedd yn raddol er mwyn gwella amwynder eu tirwedd. Ar y cyd â defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith a gwella amrywiaeth coedwigoedd, mae hyn yn golygu lleihau bylchau caled/artiffisial yn y dirwedd, annog coetiroedd cymysg ar ffiniau, a defnyddio nodweddion naturiol (fel cyrsiau dŵr a newidiadau mewn llethrau) i greu bylchau sy’n ymddangos yn fwy naturiol yng ngorchudd y coedwigoedd conifferaidd.
  • Dylid cynnal nodweddion tirwedd hanesyddol a rheoli gorchudd coetir er mwyn caniatáu golygfeydd a dehongliad addas.

Coedwigoedd a phobl

Cynnal a lle bo modd gwella profiad ymwelwyr â’r coetir, gan ddarparu amgylchedd coetir diogel, hwyliog ac amrywiol:

  • Dylai’r coetiroedd fod o fudd i iechyd a llesiant pobl leol, ac yn groesawgar i ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd.
  • Bydd pwysigrwydd llwybr beicio pellter hir Lôn Las Cymru, a llwybrau tramwy o fewn y coedwigoedd, yn cael ei gydnabod.
  • Bydd y coedwigoedd yn ffurfio rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
  • Rheolir Coed y Bont mewn cydweithrediad â Chymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont. Bydd y coetir hwn yn parhau i gael ei reoli fel coetir cymunedol lle mae mynediad i’r cyhoedd yn amcan allweddol. 

Coedwigoedd a phridd

  • Cymhwyso arfer da i gyfyngu ar ddifrod i briddoedd yn ystod cynaeafu a pharatoi’r safle, gan ystyried a ellir lleihau aflonyddwch pridd trwy ddewis sut caiff y tir ei drin.
  • Lle bo’n briodol, defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith i ddarparu gwell amddiffyniad i briddoedd mewn ardaloedd sy’n cynhyrchu coed.
  • Manteisio ar gyfleoedd (wrth gynnal gweithrediadau coedwigaeth) i ddatgysylltu hen ddraeniau coedwig oddi wrth gyrsiau dŵr, a gwella ardaloedd clustogi o amgylch cyrsiau dŵr i ddal gwaddod a lleihau effeithiau negyddol erydiad ar ansawdd dŵr.
  • Parhau â’r rhaglen dargedig o adfer mawndiroedd (a weithredir gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd) i adfer swyddogaeth hydrolegol ac ecolegol ardaloedd mawn dwfn, yn unol â pholisi Cyfoeth Naturiol Cymru / Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn cefnogi’r rhaglen mawndir drwy gynnwys yr adferiad yn nyluniad hirdymor y goedwig, gan gynnwys cysylltiadau cynefinoedd â choetiroedd torlannol a choetiroedd olynol.
  • Dylid addasu dyluniad adfer mawn lle bo angen i ddarparu ar gyfer (neu wella) cysylltedd cynefinoedd ar gyfer gwiwerod coch, ac i leihau difrod i gynefinoedd coetir llydanddail olynol pan fydd y rhain ar safleoedd mawn.

Coedwigoedd a dŵr

Mae amddiffyn dŵr yn hanfodol yng nghoedwigoedd Mynyddoedd Cambria, sy’n amgylchynu cronfa ddŵr Llyn Brianne, sy’n cyflenwi dŵr yfed i ardaloedd poblog iawn yn y De. Yn ogystal â’r gronfa ddŵr, mae dŵr o’r blociau coedwig yn draenio i afonydd mawr, gan gynnwys afon Teifi, afon Tywi ac afon Irfon (sy’n ymuno ag afon Gwy):

  • Rhaid i reolaeth coedwigoedd warchod cyrsiau dŵr a, lle bo modd, gwella ansawdd dŵr a gweithrediad afonydd, gan gynnwys cymryd camau i arafu’r llif mewn dalgylchoedd priodol, a gwella cynefinoedd torlannol o fewn y goedwig.
  • Dylid cynllunio’r holl waith coedwigaeth i leihau’r effeithiau ar ddalgylchoedd sy’n sensitif i asid, a chadw at ganllawiau Safon Coedwigaeth y DU.
  • Manteisir ar gyfleoedd i wella ardaloedd clustogi torlannol, gan blannu coetir llydanddail â chanopi agored yn lle conwydd. Yn ogystal â chefnogi rhwydweithiau cynefinoedd a darparu lefelau priodol o gysgod i gyrsiau dŵr, mae’r ardaloedd hyn yn gweithredu fel “clustogfeydd”, gan ddarparu lefel ychwanegol o amddiffyniad i gyrsiau dŵr rhag effeithiau posibl gweithrediadau coedwigaeth.
  • Bydd ardaloedd adfer mawndir yn cael eu hintegreiddio â choetiroedd torlannol ac ardaloedd coetir olynol yn nyluniad y goedwig.  

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Parhau i ailstrwythuro’r coedwigoedd fel eu bod yn cynnwys ystod ehangach o rywogaethau coed a dosbarthiadau oedran. Bydd hyn yn eu gwneud yn fwy gwydn i’r effeithiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
  • Cynyddu faint o goedwig a reolir o dan systemau coedamaeth bach eu heffaith.
  • Lleihau maint safleoedd cynaeafu yn y dyfodol, a darparu gwell gwydnwch i ddifrod tân a gwynt, trwy gyflwyno mwy o rodfeydd a rhwystrau tân, a defnyddio coetiroedd torlannol sydd wedi’u cynllunio’n ofalus.
  • Cynyddu arwynebedd coetiroedd llydanddail brodorol. Bydd hyn yn bennaf o amgylch nentydd ac afonydd, gan ddilyn nodweddion tirwedd naturiol.
  • Gwelliannau i ansawdd a gwarchodaeth dŵr, o ehangu ein hardaloedd clustogi ar lannau nentydd, datgysylltu hen ddraeniau coedwigaeth, a gwelliannau i arferion gweithredol.
  • Gwella’r amwynder gweledol yn raddol, gan fanteisio ar weithrediadau coedwig i gyflwyno ailstocio mwy sensitif sy’n gweddu’n well i siâp naturiol y dirwedd.
  • Adfer mawndiroedd yn helaeth, gan gynnwys adfer gweithrediadau ecolegol a hydrolegol lle mae hyn wedi’i ddifrodi gan arferion coedwigaeth hanesyddol. Mae ardaloedd adfer mawndir a ddangosir yn y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn wedi’u neilltuo a’u blaenoriaethu yn seiliedig ar bolisi Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Bydd rhwydweithiau cynefinoedd yn cael eu gwella’n sylweddol. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn defnyddio nentydd ac afonydd fel sail i rwydwaith cynefinoedd parhaol, gan sefydlu cysylltiad heb aflonyddwch rhwng gwaelodion dyffrynnoedd a thir bryniau agored, ledled coedwigoedd gweithredol. Manteisiwyd ar y cyfle i wella’r rhwydwaith ymhellach gan ddefnyddio rhodfeydd, rhwystrau tân ac ardaloedd adfer mawndir.
  • Bydd mesurau’n cael eu cymryd i wella cynefinoedd ar gyfer poblogaeth y wiwer goch:
    • Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig wedi nodi "mannau cyfyng" posibl lle mae symudiad y rhywogaeth wedi’i gyfyngu, a allai arwain at ddarnio poblogaeth y wiwer goch.
    • Mae mesurau tymor byr yn cynnwys cadw cnydau sy’n ffynhonnell fwyd, a sefydlu "coridorau" sy’n tyfu’n gyflym lle mae cysylltedd i’r rhywogaeth dan bwysau penodol (h.y. lle mae llwyrdorri ac adfer mawndir yn dueddol o gyfyngu ar symudiad gwiwerod coch).
    • Bydd cysylltedd tymor hwy yn cael ei wella trwy gadw coetir llydanddail / cymysg olynol yn barhaol, a fydd yn cael ei reoli heb lwyrdorri yn y dyfodol. Lle bo’n ymarferol, bydd cnydau conwydd yn cael eu rheoli gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith, gan wella cysylltedd y canopi. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd ein dyluniad coedwig yn lleihau maint y llwyrdorri yn y dyfodol.

Mapiau Cynllun Adnoddau Coedwig

Esboniad o allweddi’r map

Map 1 - Prif Amcanion Hirdymor

1-4 Tywi

5-6 Cwm Berwyn

7-8 Clywedog, Esgair Dafydd

9-12 Irfon, Banc y Garth

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

1-4 Tywi

5-6 Cwm Berwyn

7-8 Clywedog, Esgair Dafydd

9-12 Irfon, Banc y Garth

Map 3 - Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd


[1] ACA – Ardal Cadwraeth Arbennig, AGA – Ardal Gwarchodaeth Arbennig, SoDdGA – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae pob un o’r safleoedd hyn â statws gwarchodedig statudol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Mynyddoedd Cambria er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Rydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio fel cyfle i bobl ddod draw i gwrdd â staff CNC, gofyn cwestiynau, adolygu a thrafod y cynlluniau coedwigaeth:

24 Tachwedd 2025 – Neuadd Goffa, Tregaron (SY25 6JL)

2 Rhagfyr 2025 - Neuadd Fictoria, Llanwrtyd (LD5 4SS)

Bydd y ddwy sesiwn ar agor o 2.30 tan 7.30pm

Ardaloedd

  • Llandovery
  • Llanwrtyd Wells

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig