Cynllun Adnoddau Coedwig Mynyddoedd Cambria 2025
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Cyd-destun a lleoliad
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Mynyddoedd Cambria yn cynnwys sawl ardal helaeth o goedwigaeth yng nghanolbarth Cymru a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y 1960au ar gyfer cynhyrchu pren meddal. Mae ganddyn nhw arwynebedd cyfunol o 10,230 hectar (25,280 erw), sydd bron i ddeg y cant o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Y coedwigoedd yw coedwigoedd Tywi, Cwm Berwyn ac Irfon, wedi’u lleoli ar dir uchel anghysbell rhwng Tregaron a Llanwrtyd, i’r de o Bontrhydfendigaid, ac i’r gogledd o Lanymddyfri. Mae yna hefyd flociau coedwig llai yng Nghlywedog, Esgair Dafydd, Bwlchciliau a Garth Bank.
Plannwyd y coedwigoedd yn bennaf fel planhigfeydd o’r un oedran gydag ychydig o amrywiaeth o ran rhywogaethau. Mae rheolaeth fwy diweddar wedi canolbwyntio ar ailstrwythuro’r coedwigoedd i wella ansawdd a gwydnwch eu cynefin wrth ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o bren, a bydd y gwaith hwn yn parhau gyda’r Cynllun Adnoddau Coedwig.
Mae’r coedwigoedd wedi’u leoli o fewn tri awdurdod lleol: mae’r rhan fwyaf o’r blociau ucheldir mwy yng Ngheredigion, gydag ardal sylweddol (i’r dwyrain o afon Tywi) ym Mhowys; mae rhan ddeheuol Esgair Dafydd wedi’i lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhan ogledd-orllewinol Coedwig Tywi a rhan ogleddol Cwm Berwyn o fewn Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Ucheldir Ceredigion.
Mae’r goedwig yn ffinio â nifer o safleoedd dynodedig, yn fwyaf nodedig Ardal Gwarchodaeth Arbennig Elenydd – Mallaen. Cydnabyddir pwysigrwydd y goedwig i gynefinoedd ucheldir ehangach: mae’r rhain yn cynnwys tir agored a mawndiroedd heb goedwig, cynefinoedd afonydd, a choetir sy’n addas ar gyfer gwiwerod coch, y mae’r coedwigoedd hyn yn gadarnle iddynt.
Mae Coedwig Tywi yn ffurfio rhan sylweddol o ddalgylch cronfa ddŵr Llyn Brianne ac afon Tywi; mewn mannau eraill, mae’r blociau coedwig yn rhan o ddalgylchoedd afon Teifi ac afon Irfon / afon Gwy. Mae pwysigrwydd coedwigaeth i ansawdd dŵr yn cael ei adlewyrchu yn amcanion y cynllun hwn.
Map trosolwg
Amcanion
Mae rhai yn cael eu cymhwyso i ardaloedd penodol, ond lle na nodir yn wahanol, mae amcanion yn berthnasol i’r holl goedwigoedd.
Ymarfer coedwigaeth cyffredinol
- Cynhyrchu llawer iawn o bren mewn ffordd gynaliadwy, gan wneud y gorau o ansawdd pren trwy ddewis rhywogaethau a tharddiad da, a gweithrediadau teneuo sydd wedi’u cynllunio’n dda.
- Dylid cynnal potensial cynhyrchiol coedwigoedd, a’i wella lle bo modd, gan nodi bod y term hwn yn cynnwys darparu gwasanaethau ecosystemau eraill yn ogystal â chynhyrchu pren.
- Dylai rheolwyr coedwigoedd weithio i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau coedamaeth, a gwella cyflwr coedwigoedd i leihau effeithiau a risgiau i’r amgylchedd naturiol.
- Bydd gweithrediadau cynaeafu ac ailstocio yn cael eu defnyddio i gyflawni gwelliannau amgylcheddol ehangach yn y goedwig.
Coedwigoedd a bioamrywiaeth
- Diogelu ac ehangu rhwydweithiau cynefinoedd presennol o fewn y goedwig, gan ddefnyddio coetiroedd torlannol llydanddail a choetiroedd olynol i ddarparu cysylltiadau naturiol rhwng cynefinoedd ucheldir agored, a rhwydwaith yr afonydd yn y dyffrynnoedd.
- Manteisio ar gyfleoedd i gynnwys yr ardaloedd o fawndir sy’n cael eu hadfer o dan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn y rhwydweithiau cynefinoedd ehangach. (Mae ardaloedd adfer mawn yn bennaf yng nghoedwigoedd Tywi a Chwm Berwyn, mewn ardaloedd penodol a nodwyd ar fapiau’r Cynllun Adnoddau Coedwig.)
- Gwella cyflwr ecolegol ardaloedd coetiroedd brodorol.
Mae cadwraeth gwiwerod coch o bwys arbennig ym Mynyddoedd Cambria, lle ceir un o ddim ond tair poblogaeth o’r rhywogaeth gynhenid hon sy’n dal i gael eu hystyried yn hyfyw yng nghanolbarth Cymru:
- Bydd gwaith dylunio coedwigoedd yn atal gwiwerod llwyd rhag lledaenu i mewn i ardal graidd y wiwer goch, ac yn gwella’r ddarpariaeth o gynefinoedd a chysylltedd canopi ar gyfer gwiwerod coch yn y tymor hir.
- Cymodi’r gwrthdaro posibl rhwng adfer mawndiroedd (h.y. creu ardaloedd agored mawr) a chadwraeth gwiwerod coch (sy’n gofyn am gysylltedd canopi coed), trwy ddylunio coedwigoedd mewn ffordd gydnaws a gweithrediadau wedi’u trefnu’n ofalus fesul cam.
- Dylai cynllunio gweithredol sicrhau bod gwiwerod coch a’u cynefin yn cael eu diogelu’n briodol.
(Mae amcanion y wiwer goch yn berthnasol o fewn yr ardal a gwmpesir gan Brosiect Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru; mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig ond nid yw’n cynnwys Bwlchciliau a Garth Bank.)
Coedwigoedd a newid hinsawdd
- Ehangu’r ystod o ddosbarthiadau oedran a rhywogaethau coed o fewn y coetiroedd, gan fanteisio ar gyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf addas. Mae potensial cyfyngedig i arallgyfeirio trwy gyflwyno rhywogaethau sy’n hyfyw yn fasnachol ar safleoedd uchel sydd ag amlygiad uchel i’r tywydd a phriddoedd gwael.
- Cynnal gwaith teneuo amserol i wella sefydlogrwydd coed, gwella ansawdd pren, a rhoi mwy o opsiynau ar gyfer rheoli yn y dyfodol.
- Defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo’n briodol. (Mae rheolaeth systemau coedamaeth bach eu heffaith yn cael ei chymhwyso lle mae’r safle a chnwd y goedwig yn addas. Fel arfer, mae hyn yn golygu ardaloedd lle mae’n ymarferol cynnal gwaith teneuo rheolaidd, costeffeithiol, heb risg annerbyniol o goed a chwalwyd gan y gwynt.)
- Lle nad ystyrir bod systemau coedamaeth bach eu heffaith yn ymarferol, gwneud yn siŵr bod ardaloedd wedi’u llwyrdorri yn cael eu cynllunio’n ofalus i raddfa sy’n addas ar gyfer y dirwedd.
- Gwella gwydnwch yn y dyfodol i wyntoedd cryfion a thanau drwy dorri ardaloedd cydgyffyrddol mwy o goedwig uchel gyda rhodfeydd, rhwystrau tân, ac ardaloedd o goetir torlannol/olynol.
- Gan weithio gyda’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, ymgymryd â gwaith adfer i adfer systemau hydroleg ac ecolegol sy’n gweithredu. Dim ond mewn ardaloedd diffiniedig y bydd datgoedwigo ar gyfer adfer mawndir yn digwydd, lle mae’r dull yn gyson â pholisi Cyfoeth Naturiol Cymru.
Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol
- Rheoli henebion cofrestredig yn unol â chynlluniau rheoli safleoedd, gan ddilyn cyngor gan Cadw.
- Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth ac archaeolegol o fewn y coedwigoedd gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan Heneb fel rhan o’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn. Mae’r coedwigoedd yn cynnwys safleoedd heb eu rhestru lle mae nodweddion treftadaeth yn arwyddocaol o ran deall a dehongli hanes lleol, a gallant fod yn bwysig i bobl leol.
Coedwigoedd a thirwedd
Gellir nodweddu blociau coedwig Mynyddoedd Cambria yn bennaf fel rhai ucheldirol ac anghysbell; mae eu maint mawr yn eu gwneud yn arwyddocaol ar y dirwedd wledig. Mae rhan ogleddol Tywi a Chwm Berwyn o fewn Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Ucheldir Ceredigion.
- Addasu’r coedwigoedd yn raddol er mwyn gwella amwynder eu tirwedd. Ar y cyd â defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith a gwella amrywiaeth coedwigoedd, mae hyn yn golygu lleihau bylchau caled/artiffisial yn y dirwedd, annog coetiroedd cymysg ar ffiniau, a defnyddio nodweddion naturiol (fel cyrsiau dŵr a newidiadau mewn llethrau) i greu bylchau sy’n ymddangos yn fwy naturiol yng ngorchudd y coedwigoedd conifferaidd.
- Dylid cynnal nodweddion tirwedd hanesyddol a rheoli gorchudd coetir er mwyn caniatáu golygfeydd a dehongliad addas.
Coedwigoedd a phobl
Cynnal a lle bo modd gwella profiad ymwelwyr â’r coetir, gan ddarparu amgylchedd coetir diogel, hwyliog ac amrywiol:
- Dylai’r coetiroedd fod o fudd i iechyd a llesiant pobl leol, ac yn groesawgar i ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd.
- Bydd pwysigrwydd llwybr beicio pellter hir Lôn Las Cymru, a llwybrau tramwy o fewn y coedwigoedd, yn cael ei gydnabod.
- Bydd y coedwigoedd yn ffurfio rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
- Rheolir Coed y Bont mewn cydweithrediad â Chymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont. Bydd y coetir hwn yn parhau i gael ei reoli fel coetir cymunedol lle mae mynediad i’r cyhoedd yn amcan allweddol.
Coedwigoedd a phridd
- Cymhwyso arfer da i gyfyngu ar ddifrod i briddoedd yn ystod cynaeafu a pharatoi’r safle, gan ystyried a ellir lleihau aflonyddwch pridd trwy ddewis sut caiff y tir ei drin.
- Lle bo’n briodol, defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith i ddarparu gwell amddiffyniad i briddoedd mewn ardaloedd sy’n cynhyrchu coed.
- Manteisio ar gyfleoedd (wrth gynnal gweithrediadau coedwigaeth) i ddatgysylltu hen ddraeniau coedwig oddi wrth gyrsiau dŵr, a gwella ardaloedd clustogi o amgylch cyrsiau dŵr i ddal gwaddod a lleihau effeithiau negyddol erydiad ar ansawdd dŵr.
- Parhau â’r rhaglen dargedig o adfer mawndiroedd (a weithredir gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd) i adfer swyddogaeth hydrolegol ac ecolegol ardaloedd mawn dwfn, yn unol â pholisi Cyfoeth Naturiol Cymru / Llywodraeth Cymru.
- Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn cefnogi’r rhaglen mawndir drwy gynnwys yr adferiad yn nyluniad hirdymor y goedwig, gan gynnwys cysylltiadau cynefinoedd â choetiroedd torlannol a choetiroedd olynol.
- Dylid addasu dyluniad adfer mawn lle bo angen i ddarparu ar gyfer (neu wella) cysylltedd cynefinoedd ar gyfer gwiwerod coch, ac i leihau difrod i gynefinoedd coetir llydanddail olynol pan fydd y rhain ar safleoedd mawn.
Coedwigoedd a dŵr
Mae amddiffyn dŵr yn hanfodol yng nghoedwigoedd Mynyddoedd Cambria, sy’n amgylchynu cronfa ddŵr Llyn Brianne, sy’n cyflenwi dŵr yfed i ardaloedd poblog iawn yn y De. Yn ogystal â’r gronfa ddŵr, mae dŵr o’r blociau coedwig yn draenio i afonydd mawr, gan gynnwys afon Teifi, afon Tywi ac afon Irfon (sy’n ymuno ag afon Gwy):
- Rhaid i reolaeth coedwigoedd warchod cyrsiau dŵr a, lle bo modd, gwella ansawdd dŵr a gweithrediad afonydd, gan gynnwys cymryd camau i arafu’r llif mewn dalgylchoedd priodol, a gwella cynefinoedd torlannol o fewn y goedwig.
- Dylid cynllunio’r holl waith coedwigaeth i leihau’r effeithiau ar ddalgylchoedd sy’n sensitif i asid, a chadw at ganllawiau Safon Coedwigaeth y DU.
- Manteisir ar gyfleoedd i wella ardaloedd clustogi torlannol, gan blannu coetir llydanddail â chanopi agored yn lle conwydd. Yn ogystal â chefnogi rhwydweithiau cynefinoedd a darparu lefelau priodol o gysgod i gyrsiau dŵr, mae’r ardaloedd hyn yn gweithredu fel “clustogfeydd”, gan ddarparu lefel ychwanegol o amddiffyniad i gyrsiau dŵr rhag effeithiau posibl gweithrediadau coedwigaeth.
- Bydd ardaloedd adfer mawndir yn cael eu hintegreiddio â choetiroedd torlannol ac ardaloedd coetir olynol yn nyluniad y goedwig.
Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Parhau i ailstrwythuro’r coedwigoedd fel eu bod yn cynnwys ystod ehangach o rywogaethau coed a dosbarthiadau oedran. Bydd hyn yn eu gwneud yn fwy gwydn i’r effeithiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
- Cynyddu faint o goedwig a reolir o dan systemau coedamaeth bach eu heffaith.
- Lleihau maint safleoedd cynaeafu yn y dyfodol, a darparu gwell gwydnwch i ddifrod tân a gwynt, trwy gyflwyno mwy o rodfeydd a rhwystrau tân, a defnyddio coetiroedd torlannol sydd wedi’u cynllunio’n ofalus.
- Cynyddu arwynebedd coetiroedd llydanddail brodorol. Bydd hyn yn bennaf o amgylch nentydd ac afonydd, gan ddilyn nodweddion tirwedd naturiol.
- Gwelliannau i ansawdd a gwarchodaeth dŵr, o ehangu ein hardaloedd clustogi ar lannau nentydd, datgysylltu hen ddraeniau coedwigaeth, a gwelliannau i arferion gweithredol.
- Gwella’r amwynder gweledol yn raddol, gan fanteisio ar weithrediadau coedwig i gyflwyno ailstocio mwy sensitif sy’n gweddu’n well i siâp naturiol y dirwedd.
- Adfer mawndiroedd yn helaeth, gan gynnwys adfer gweithrediadau ecolegol a hydrolegol lle mae hyn wedi’i ddifrodi gan arferion coedwigaeth hanesyddol. Mae ardaloedd adfer mawndir a ddangosir yn y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn wedi’u neilltuo a’u blaenoriaethu yn seiliedig ar bolisi Llywodraeth Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Bydd rhwydweithiau cynefinoedd yn cael eu gwella’n sylweddol. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn defnyddio nentydd ac afonydd fel sail i rwydwaith cynefinoedd parhaol, gan sefydlu cysylltiad heb aflonyddwch rhwng gwaelodion dyffrynnoedd a thir bryniau agored, ledled coedwigoedd gweithredol. Manteisiwyd ar y cyfle i wella’r rhwydwaith ymhellach gan ddefnyddio rhodfeydd, rhwystrau tân ac ardaloedd adfer mawndir.
- Bydd mesurau’n cael eu cymryd i wella cynefinoedd ar gyfer poblogaeth y wiwer goch:
- Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig wedi nodi "mannau cyfyng" posibl lle mae symudiad y rhywogaeth wedi’i gyfyngu, a allai arwain at ddarnio poblogaeth y wiwer goch.
- Mae mesurau tymor byr yn cynnwys cadw cnydau sy’n ffynhonnell fwyd, a sefydlu "coridorau" sy’n tyfu’n gyflym lle mae cysylltedd i’r rhywogaeth dan bwysau penodol (h.y. lle mae llwyrdorri ac adfer mawndir yn dueddol o gyfyngu ar symudiad gwiwerod coch).
- Bydd cysylltedd tymor hwy yn cael ei wella trwy gadw coetir llydanddail / cymysg olynol yn barhaol, a fydd yn cael ei reoli heb lwyrdorri yn y dyfodol. Lle bo’n ymarferol, bydd cnydau conwydd yn cael eu rheoli gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith, gan wella cysylltedd y canopi. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd ein dyluniad coedwig yn lleihau maint y llwyrdorri yn y dyfodol.
Mapiau Cynllun Adnoddau Coedwig
Map 1 - Prif Amcanion Hirdymor
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 - Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd
[1] ACA – Ardal Cadwraeth Arbennig, AGA – Ardal Gwarchodaeth Arbennig, SoDdGA – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae pob un o’r safleoedd hyn â statws gwarchodedig statudol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Mynyddoedd Cambria er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Rydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio fel cyfle i bobl ddod draw i gwrdd â staff CNC, gofyn cwestiynau, adolygu a thrafod y cynlluniau coedwigaeth:
24 Tachwedd 2025 – Neuadd Goffa, Tregaron (SY25 6JL)
2 Rhagfyr 2025 - Neuadd Fictoria, Llanwrtyd (LD5 4SS)
Bydd y ddwy sesiwn ar agor o 2.30 tan 7.30pm
Ardaloedd
- Llandovery
- Llanwrtyd Wells
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook