Cynllun Adnoddau Coedwig Mynydd Du a Llanthony
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae cynllun adnoddau coedwig Mynydd Du a Llanddewi Nant Hodni’n cynnwys 1,262 hectar o dir i’r de-ddwyrain o Grucywel ynghanol ardal y Mynydd Du.
Mae ardal y cynllun yn cynnwys dwy goedwig ar wahân. Mae prif goedwig y Mynydd Du’n gorchuddio’r tir o boptu Afon Grwyne Fawr, o’r coetir cysgodol ar lannau’r afon yng ngwaelod y dyffryn a mwy na 700 metr i fyny’r llethrau gorllewinol. Saif Coed Llanddewi Nant Hodni yn y dyffryn nesaf i’r dwyrain ac mae’n gadwyn o goetiroedd amrywiol hen ystadau, sy’n mynd ar hyd llethrau gorllewinol prydferth Cwm Euas.
Er bod y coed yn ymestyn o boptu’r ffin rhwng Powys a Sir Fynwy, mae’r holl goetir sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun adnoddau coedwig hwn yn gorwedd yn llwyr o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Mynydd Du a Llanthony
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Mynydd Du Map 1: Prif Amcanion Hirdymor
Mynydd Du Map 2: Systemau Rheoli Coedwigoedd
Mynydd Du Map 3: Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol
Llanthony Map 1: Prif Amcanion Hirdymor
Llanthony Map 2: Systemau Rheoli Coedwigoedd
Llanthony Map 3: Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Bydd y Mynydd Du yn parhau’n goetir cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gynnal cyflogaeth ac economi Cymru.
- Bydd yr amrywiaeth strwythurol ac o ran rhywogaethau’n cael ei gwella'n sylweddol, gan greu mwy o gydnerthedd rhag plâu, clefydau a’r newid yn yr hinsawdd.
- Bydd ehangu coridor llydanddail ar hyd rhan isaf dyffryn Grwyne Fawr, ac ailstocio 'canol llethrau' â chymysgedd mwy amrywiol o rywogaethau cynhyrchiol, yn peri gostyngiad cynyddol yng nghyfran y coed sbriws Sitka.
- Bydd adfer safleoedd coetir hynafol yn peri bod Llanddewi Nant Hodni i gyd, a rhannau is o ddyffryn y Mynydd Du, yn cael eu troi’n ôl yn raddol yn goetir llydanddail brodorol.
- Bydd dull cynyddrannol 'System Goedamaeth Fach ei Heffaith’ yn cael ei ffafrio o ran adfer ardaloedd coetir hynafol a rhannau o'r cnwd cynhyrchiol lle mae cyfyngiadau'n caniatáu, gan ddod â 258ha (21%) o'r coetir o dan drefn rheolaeth gorchudd di-dor.
- Bydd coridorau glannau afon a chlustogfeydd coetir olynol yn cael eu hehangu a'u rheoli i sicrhau bod cyflwr nodweddion sydd â gwerth cadwraeth uwch a safleoedd dynodedig cyfagos yn cael eu diogelu a'u gwella, ac er mwyn gwella cysylltedd rhwng cynefinoedd.
- Yn y Mynydd Du, bydd rhai o'r clystyrau o goed conwydd talach gerllaw'r ffordd sirol, na ellir eu rheoli'n ddiogel o dan 'System Goedamaeth Fach ei Heffaith', yn cael eu cwympo a'u hailstocio â choed llydanddail brodorol.
- Bydd gweddill y cnydau llarwydd yn cael eu tynnu dros gyfnod y cynllun, a hynny oherwydd bod Phytophthora ramorum yn yr ardal.
- Bydd agweddau eraill ar reoli'r coetir, fel darparu cyfleoedd i’r gymuned gael mynediad at ddibenion iechyd, a nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth yn y goedwig, yn parhau’n amcanion pwysig.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Mynydd Du a Llanthony er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Ardaloedd
- Crickhowell
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook