Cynllun Adnoddau Coedwig Myherin / Tarenig

Yn cau 16 Mai 2025

Wedi agor 14 Ebr 2025

Trosolwg

View this page in English

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Lleoliad

Mae Myherin a Tharenig yn ddwy blanhigfa goedwigaeth gyfagos ym Mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru. Mae Tarenig (2,085 hectar) yn amlwg yn y dirwedd yn rhan uchaf afon Gwy, ar ochr ddeheuol ffordd yr A44 o Aberystwyth i Langurig. Mae Myherin (1,653 hectar) ychydig filltiroedd i’r de-orllewin, ac mae’n fwy anghysbell. Mae’r ddwy goedwig wedi’u cysylltu gan lwyfandir ucheldirol Cefn Croes, ac mae 1,049 hectar o dir bryniog agored wedi’u cynnwys yn ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn. Cwblhawyd fferm wynt o 39 o dyrbinau yng Nghefn Croes yn 2005. Cyfanswm arwynebedd y cynllun hwn yw 4,787 hectar.

Mae’r llethrau agored o amgylch Myherin / Tarenig a Chefn Croes yn bwysig iawn ar gyfer cadwraeth natur, ac yn nodedig am lystyfiant ac adar sy’n bridio. Maent yn cynnwys ACA a SoDdGA Elenydd, ac AGA Elenydd-Mallaen.[1] Mae Coedwig Tarenig yn ffinio ag afon Gwy (sydd yn SoDdGA yma: mae tarddle’r afon ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r goedwig); mae Myherin yn agos at ACA Coedydd a Cheunant Rheidol, ac mae ei chyrsiau dŵr yn llifo i mewn i afon Rheidol ac afon Ystwyth. Mae nifer o safleoedd dynodedig eraill yn agos at y coedwigoedd, a chaiff y rhain eu hystyried yn fanylach yn nogfen amcanion lawn y Cynllun Adnoddau Coedwig.

Planhigfeydd conifferaidd yw Myherin a Tharenig yn bennaf, a sefydlwyd rhwng y 1930au a’r 1970au ar gyfer cynhyrchu pren meddal. Mae’r ddwy goedwig hefyd yn cynnwys ardaloedd cymharol fach o safle coetir hynafol. Ar wahân i’r ardaloedd hynny, cyn coedwigo byddai’r rhan fwyaf o’r ardal wedi cael ei defnyddio ar gyfer pori, ac mae hanes mwyngloddio yn yr ardal hefyd (ceir olion mwyngloddiau plwm yn y ddwy goedwig).

Y dyddiau hyn mae’r mwyafrif o’r coedwigoedd yn hygyrch yn weithredol, gyda rhwydwaith da o ffyrdd coedwig, er bod rhai cellïoedd yn anodd eu rheoli oherwydd llethrau serth. Mae’r coedwigoedd yn parhau i fod yn bwysig ar gyfer cynhyrchu pren, ond mae rheolaeth ddiweddar wedi rhoi mwy o bwyslais ar ailstrwythuro’r coedwigoedd a gwella ansawdd yr amgylchedd.

Mae’r coedwigoedd yn gymharol anghysbell oherwydd eu lleoliad ucheldirol. Ond, yn ogystal â thir bryniog agored a phlanhigfeydd coedwigaeth eraill, mae’r coedwigoedd yn cysylltu ag ardaloedd o dir ffermio caeëdig, gwrychoedd a choetiroedd llydanddail. Nid ydynt yn bell o dir arall sy’n rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Hafod (500 metr i’r de), Hafren (2 gilometr i’r gogledd) a Nant yr Arian (7 cilometr i’r gorllewin).

Mae tua hanner yr ucheldir canolog yn y Cynllun Adnoddau Coedwig wedi’i ddynodi ar gyfer mynediad agored ar droed o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ynghyd â 730 hectar o dir coediog ar ochr ddwyreiniol Tarenig. Caniateir mynediad i rwydwaith ffyrdd y goedwig ar droed, ceffyl a beic ar draws y coedwigoedd ar sail ganiataol, ac mae llwybrau cerdded drwy’r goedwig wedi’u harwyddo ar gael ym Myherin o faes parcio’r Bwa. Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn y ddwy goedwig (a rhyngddynt), gan gynnwys llwybrau cerdded hir y Borth i Bontarfynach i Bontrhyfendigaid (Llwybr Mal Evans), Ffordd Cambria a Llwybr Dyffryn Gwy.

Mae’r rhan fwyaf o ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yng Ngheredigion, ond mae ochr ddwyreiniol Tarenig ym Mhowys.

Mae’r coedwigoedd yn nalgylchoedd afon Rheidol (ei blaenddyfroedd afon Castell ac afon Mynach), afon Ystwyth (ei blaenddyfroedd Nant Cell ac afon Ystwyth) ac afon Gwy (afon Tarenig, o’i tharddle i’w chydlifiad ag afon Gwy, ac yn parhau i lawr yr afon o’r cydlifiad hwnnw i’w chydlifiad ag afon Bidno). Mae pedwar o’r dalgylchoedd hyn wedi’u graddio ‘cymedrol’ o dan asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae Nant Cell ac afon Tarenig yn cael eu graddio ‘gwael’.

Map trosolwg

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Amcanion

Amcan 1: Gwytnwch coedwigoedd

Mae coedwigoedd amrywiol yn fwy cadarn, ac yn gallu gwrthsefyll y pwysau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys risgiau cynyddol o blâu a chlefydau. Parhau i ehangu’r amrywiaeth o ddosbarthiadau oedran a rhywogaethau coed yn y coetiroedd, gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith mewn ardaloedd addas, a lleihau maint ardaloedd wedi’u llwyrdorri yn y dyfodol. Dewis rhywogaethau ar gyfer ailstocio sy’n addas ar gyfer amodau’r safle yn ofalus. Gellir defnyddio aildyfiant naturiol lle bo’n briodol. Dylid teneuo’n rheolaidd ac yn amserol er mwyn gwella sefydlogrwydd coed a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i wella gwytnwch a chyflawni’r amcanion eraill a nodir yma. Parhau â’r cynllun i gael gwared â llarwydd, oherwydd eu bod yn agored i glefyd Phytophthrora ramorum.

Amcan 2: Cynhyrchu pren yn gynaliadwy

Cynhyrchu llawer iawn o bren mewn ffordd gynaliadwy, gan wneud y gorau o ansawdd pren trwy ddewis rhywogaethau a tharddiad da, a gweithrediadau teneuo sydd wedi’u cynllunio’n dda. Gweithio i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau coedamaeth, ac achub ar gyfleoedd i wella cyflwr coedwigoedd i leihau effeithiau a risgiau i’r amgylchedd naturiol. Dylid cynnal potensial cynhyrchiol y goedwig, a’i wella lle bo modd, gan nodi bod y term hwn yn cynnwys darparu gwasanaethau ecosystemau eraill, ac nad yw wedi’i gyfyngu i gynhyrchu pren yn unig.

Amcan 3: Ansawdd cynefinoedd a rhwydweithiau natur

Mae coedwigoedd Myherin a Tharenig yn bwysig iawn ar gyfer cysylltu cynefinoedd, gan ddarparu dolen gyswllt rhwng cynefinoedd gwerthfawr (safleoedd dynodedig) ar loriau dyffrynnoedd ac ar ben bryniau’r ucheldir. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig hwn wedi’i ddatblygu drwy nodi a mapio ardaloedd cynefinoedd presennol, ac achub ar gyfleoedd i’w hehangu a’u cysylltu. Dylid achub ar gyfleoedd i wella cyflwr a maint cynefinoedd agored, yn ogystal â choetiroedd brodorol / olyniaethol. Mae’r cynllun yn cynnwys gwaith adfer mawndiroedd helaeth, yn unol â pholisi CNC, gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.

Amcan 4: Diogelu dŵr

Rhaid i reolaeth coedwigoedd warchod cyrsiau dŵr a, lle bo’n bosibl, gwella ansawdd dŵr a gweithrediad afonydd, gan gynnwys cymryd camau i arafu’r llif (lleihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon) a gwella cynefinoedd torlannol yn y goedwig. Cynhaliwyd ymarfer peilot yn nodi ymyriadau rheoli dalgylchoedd mewn modd integredig (yng Nghoedwig Tarenig) wrth baratoi’r cynllun hwn, sy’n cynnwys rhaglen o waith ar gyfer diogelu afonydd. Bydd yr holl waith coedwigaeth yn cael ei gynllunio yn unol ag arferion gorau’r diwydiant ar gyfer rheoli dalgylchoedd sy’n sensitif i asid.

Amcan 5: Y dirwedd a’r amgylchedd hanesyddol

Addasu’r coetiroedd yn raddol er mwyn gwella amwynder y dirwedd: ar y cyd â defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith a gwella amrywiaeth coedwigoedd, mae hyn yn golygu lleihau toriadau caled / artiffisial yn y dirwedd, annog coetiroedd cymysg ar ffiniau, a defnyddio nodweddion naturiol (fel cyrsiau dŵr a newidiadau mewn llethrau) i greu bylchau sy’n ymddangos yn fwy naturiol mewn gorchudd y coedwigoedd conifferaidd. Dylid gofalu am nodweddion y dirwedd hanesyddol (fel y gwersyll cyrch Rhufeinig yn Nharenig, a hen weithfeydd mwyngloddio), a rheoli gorchudd y coetir yn eu cyffiniau er mwyn caniatáu golygfeydd a dehongliad addas. 

Amcan 6: Coetiroedd i bobl

Cynnal a lle bo modd gwella profiad ymwelwyr â’r coetir, gan ddarparu amgylchedd coetir diogel, hwyliog ac amrywiol. Dylai’r coetiroedd fod o fudd i iechyd a llesiant pobl leol, ac yn groesawgar i ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd. Dylid cydnabod pwysigrwydd llwybrau pellter hir a llwybrau hanesyddol. Bydd y coetiroedd yn ffurfio rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Clirio’r coed a chwalwyd yn ddiweddar gan Storm Darragh
  • Ailstocio gydag amrywiaeth ehangach o rywogaethau coed, gan leihau’r ardal sy’n cynnwys un rhywogaeth o byrwydd yn unig.
  • Bydd ailstocio yn cael ei gynllunio i wella gwytnwch, gyda rhagor o rodfeydd a bylchau i atal tanau, ac i leihau maint ardaloedd sydd wedi’u llwyrdorri yn y dyfodol.
  • Cynyddu’r ardal a reolir o dan systemau coedamaeth bach eu heffaith (h.y. osgoi llwyrdorri coed).
  • Rhagor o goed llydanddail brodorol, a lleiniau ehangach o goetiroedd brodorol ar hyd glannau nentydd.
  • Adfer ardaloedd mawnog dwfn, a gwella cysylltedd tir cynefin agored â choetir olyniaethol â chanopi agored.

Mapiau Cynllun Adnoddau Coedwig

Cynllun cysyniadol:

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Esboniad o allweddi’r map

Map 1 - Prif Amcanion Hirdymor

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3 - Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.


[1] ACA – Ardal Cadwraeth Arbennig, AGA – Ardal Gwarchodaeth Arbennig, SoDdGA – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae pob un o’r safleoedd hyn â statws gwarchodedig statudol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Myherin / Tarenig er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Rydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio fel cyfle i bobl ddod draw i gwrdd â staff CNC, gofyn cwestiynau, adolygu a thrafod y cynlluniau coedwigaeth:

1 Mai 2025 – Canolfan Gymunedol Llangurig (SY18 6SG)

2 Mai 2025 – Canolfan Gymunedol Mynarch, Pontarfynach (SY23 4QZ)

Bydd y ddwy sesiwn ar agor o 2.30 tan 7.30pm

Ardaloedd

  • Aberystwyth Rheidol
  • Ystwyth

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig