Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion

Ar gau 14 Ebr 2023

Wedi'i agor 13 Maw 2023

Trosolwg

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Lleolir blociau Coedwig Mawddach ac Wnion (cyfanswm arwynebedd 751ha) yn bennaf ar hyd aber afon Mawddach, i'r gogledd o bentref Llanelltyd ac wedi'u gwasgaru ar hyd ac o amgylch yr Afon Wnion o amgylch tref Dolgellau a phentrefi Llanfachreth a Brithdir. Mae'r bloc mwyaf a mwyaf gweladwy uwchben Llanelltyd ond ardaloedd pwysig eraill yw'r Bont Ddu a Choed y Garth. Mae'r holl ardaloedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.  Mae’r ardaloedd hyn gyda’i gilydd yn ffurfio Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion:

Mae holl flociau Coedwig Mawddach ac Wnion wedi eu lleoli o fewn Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri sydd hefyd yn Awdurdod Cynllunio perthnasol. Yn weledol, mae nifer ohonynt yn eithaf dominyddol a phwysig yn y dirwedd, bloc Llanelltyd yw'r pwysicaf yn weledol o bell ffordd ond hefyd mae Bont Ddu a Choed y Garth mewn mannau eithaf amlwg yn aber afon Mawddach.  Mae gan yr holl flociau llai hefyd rywfaint o bwysigrwydd gweledol.

O ran y lleoliad lleol, mae'r goedwig i gyd o fewn dalgylch dŵr afon Mawddach, yn bennaf i'r gogledd a'r de o aber afon Mawddach ond hefyd yn agos at Afon Wnion yn agos at bentrefi Brithdir a Llanfachreth. Mae coetir Llanelltyd y tu ôl i bentref Llanelltyd ac yn codi hyd at gopaon y Garn a Foel Ispri, ac mae’n weladwy iawn o dref Dolgellau, prif gefnffordd yr A470, Cadair Idris a llawer o lwybrau cerdded a golygfannau eraill o bwys lleol o fewn ardal yr aber.

Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:

Crynodeb o'r amcanion ar gyfer Coedwig Mawddach ac Wnion

Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:

Esboniad o allweddi’r map

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Lluniau

Yn ogystal â’r arolwg ar-lein hwn, cynhelir sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau, LL40 1LH, ddydd Mercher 29 Mawrth 2023 rhwng 2pm a 7pm er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid drafod Cynllun Adnoddau Coedwig Mawddach ac Wnion wyneb yn wyneb gyda chynllunwyr coedwig CNC.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Mawddach ac Wnion er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.

Ardaloedd

  • Aberbargoed

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig