Cynllun Adnoddau Coedwig Mathrafal

Ar gau 18 Rhag 2022

Wedi'i agor 21 Tach 2022

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal yn amlinellu rheolaeth 22 bloc coedwig i’r dyfodol sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ardal Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal. Mae blociau coedwig Mathrafal wedi’u gwasgaru dros ardal o 175 km2, rhwng ac o amgylch y dref a phentrefi’r Trallwng, Llanfair Caereinion a Llanfyllin. Mae’r blociau wedi’u lleoli i’r gorllewin o’r Trallwng, gyda’r clwstwr mwyaf o amgylch pentref Meifod (Ffigur 1). Mae nifer o’r blociau mwyaf ar hyd dyffryn Meifod a gellir eu cyrraedd o ffordd A495. Mae ardal y cynllun yn 636.4 ha i gyd ac yn cynnwys coed llydanddail yn bennaf.

Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnodd Coedwig Mathrafal yn cynnwys ffermdir caeedig wedi’i bori a chnydau âr, yn nodweddiadol ar waelod y dyffrynnoedd ac ar ben y bryniau, a blociau o goedwigoedd conwydd a choetiroedd llydanddail, yn nodweddiadol ar lethrau mwy serth y dyffryn. Mae holl flociau Coedwig Mathrafal, ac eithrio Big Forest a Figyn Wood, wedi cael eu neilltuo dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ar gyfer mynediad agored ar droed, a hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau drwy ganiatâd. Ceir rhwydwaith eang o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cysylltu llawer o flociau Mathrafal â’r dirwedd ehangach. Mae Llwybr Cenedlaethol pellter hir Glyndŵr yn rhedeg drwy flociau Broniarth a Choed Figyn, ac yn ffinio ar nifer o’r blociau eraill. 

Mae Coedwig Mathrafal yn perthyn i ddeuddeg dalgylch afon gwahanol. Mae gan bump o’r rhain statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr cyffredinol ‘Da’, ac mae gan bump arall statws cyffredinol ‘Cymedrol’; mae dalgylchoedd ‘Guilsfield Brook – o’r tarddiad i’r cydlifiad â Nant Rhyd-y-Moch’ ac ‘Afon Banwy’ wedi cael statws cyffredinol ‘Gwael’. Gweler adran Dŵr Croyw a Pherygl Llifogydd i gael rhagor o fanylion.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod mae crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Mathrafal, ac yna mapiau dangosol ar gyfer y Weledigaeth Hirdymor, Strategaethau Rheoli Coedwigoedd ac Ailstocio a gynigir ar gyfer y goedwig:

Prif Amcanion, Cyfleoedd a Blaenoriaethau:

  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safle coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol, gan arwain at gynyddu’r elfen lydanddail drwy’r goedwig (gan gynyddu i 70% yn ystod cyfnod y cynllun).
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy barhau i roi Systemau Coedamaeth Effaith Isel ar waith.
  • Mwy o ardaloedd o goetir olynol / torlannol ar gyfer gwella gwytnwch y cynefin a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddewis y cynlluniau cwympo a’r rhywogaethau sy’n cael eu hailstocio.
  • Defnyddio cyfuniad o adfywio naturiol ac ailstocio wedi’i gynllunio’n ofalus er mwyn amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i wella’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau ac ar yr un pryd datblygu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Cydweddu effeithiau gweledol y coetiroedd ymhellach â’r dirwedd ehangach, gan helpu i wella Nodweddion Tirweddau Cenedlaethol yr Ardaloedd hyn.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth ac archaeolegol pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol diogel a phleserus.

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi'r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gogledd)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (De)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gogledd)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (De)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gogledd)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (De)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:     

  • Adfer 190 ha o goetir hynafol drwy gael gwared o gonwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol.
  • Rhagor o waith gwella ecolegol a chynnal 251 ha ychwanegol sy’n cael ei gategoreiddio fel Coetir Hynafol Lled-Naturiol.
  • Cynyddu nifer y coed llydanddail i 70% o arwynebedd y cynllun, gan gynnwys o amgylch safleoedd sy'n bwysig ar gyfer clwydo ystlumod.
  • Ardaloedd parhaus o goed conwydd cynhyrchiol mewn ardaloedd a ystyrir yn fwyaf priodol.
  • Cynyddu’r defnydd o systemau Coedamaeth Effaith Isel i 65% o ardal y goedwig.
  • Cynyddu’r defnydd o Ymyrraeth Leiaf pan fo’n briodol (cynyddu i 26% o ardal y goedwig).
  • Cynyddu amrywiaeth rhywogaethau llydanddail a chonwydd er mwyn cynyddu gallu’r coetir i wrthsefyll plâu a chlefydau.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer  Coedwig Mathrafal i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Berriew
  • Guilsfield
  • Llanfair Caereinion
  • Llanfihangel
  • Llanfyllin
  • Meifod
  • Welshpool Castle
  • Welshpool Gungrog

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig